Dyma hysbyseb swydd a ymddangosodd yn Golwg yr wythnos hon:
Mae Wici Cymru a Wikimedia UK yn chwilio am Reolwr i Gymru i ddatblygu’r Wicipedia Cymraeg a Saesneg yng Nghymru drwy ysbrydoli a hyfforddi golygyddion newydd drwy gynllun y prosiect Llwybrau Byw!
Dylai’r Rheolwr fod yn brofiadol mewn: golygu prosiectau Wicimedia (Cymraeg a Saesneg), cefnogi ein gwirfoddolwyr, rheoli personél, gweithio o fewn cyllideb a chyflawni targedau mewn pryd. Bydd y gwaith yn cynnwys penodi a chefnogi hyfforddwyr a threfnu a chynnal sesiynau hyfforddi ledled Cymru.
Mae medru siarad Gymraeg a Saesneg yn rhugl yn hanfodol.
Mae’r swydd am 12 mis a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei secondio i Wici Cymru a fydd yn goruchwylio’r gwaith (ar y cyd gyda WMUK, y cyflogwr) a Llywodraeth Cymru fel cyd-noddwr.
Mae’r swydd hefyd yn amodol ar ganllawiau a chytundebau WMUK ac am 4.5 diwrnod yr wythnos. Ffurflen Gais a chwaneg o wybodaeth oddi wrth:
Jon Davies: jon.daviesatwikimedia.org.uk
ac ar wefan www.wikimedia.org.ukCyflog: oddeutu £25,500 – £29,000 yn ddibynol ar brofiad.
Dyddiad cau: 21ain o Fehefin, 2013 am 10 y bore. Cyfweliadau yn Wrecsam ar fore ddydd Mercher y 26ain o Orffennaf.
Mae disgrifiad llawn o amcanion prosiect Llwybrau Byw! a dyletswyddau’r swydd iw cael ar wefan Wikimedia UK.