Dw i wedi bod yn aros yn y ciw yn RS Components am fy Raspberry Pi. Diolch i Rhys W a’i Raspberry Pi am fy nghipolwg cyntaf uchod.
Raspberry Pi – rhagor o wybodaeth
Diolch i bawb am ddod i Hacio’r Iaith Bach yng Nghaerdydd neithiwr i drafod newyddion lleol, blogiau a phethau eraill.
Fideo arbennig – sgwrs ddifyr ac ansawdd sain da iawn hefyd ar y ffon.
Wel o’n i eisiau wneud fideo Cymraeg am y Raspberry Pi!
Mae tudalen fach ar Hedyn bellach: http://hedyn.net/wici/Raspberry_Pi_Cymraeg
Mae awdio yn wan ar lot o ddyfeisiau bach fel ffonau, FlipCam ayyb. Sut fi’n (trio) wneud fideo clir:
1. cer i rywle dawel – tu allan os ydy’r lle yn swnllyd fel Chapter
2. agos (…a phersonol) i’r person
3. wynebu’r person
Helo Carl
Wyt ti’n gwybod os fod rhywun wedi datblygu fersiwn Cymraeg o declynnau meddalwedd fel ‘Coder’ i’r Raspberry Pi eto?
Nac ydw, dw i ddim yn gwybod. Dw i ddim wedi clywed unrhyw sôn am fersiwn Cymraeg.
A oes galw am feddalwedd Cymraeg i’r Pi? Ydi ysgolion yn ei defnyddio nhw gymaint a sydd yn cael ei son am yn yr wasg? Os fysa fwy o ysgolion yn ei defnyddio efallai fysa prosiect Pi Cymraeg yn un gwerthfawr. Effallai ddylie cael sesiwn Pi yn Hacio’r Iaith 2014?
Oes, dw i’n meddwl. Yn enwedig achos dw i newydd gael Pi fel anrheg Nadolig!
Dylen ni gael sesiwn Pi yn bendant!
Dwi’n hapus cyfrannu lle fedrai i sesiwn Pi. Rwyf wedi bod yn chwarae gyda’m Pi ers tua 18 mis, ac yn gweithio yn yr maes embedded/Linux.
Siaradais â chydweithwir ddim mor hir yn ôl sydd yn gweithio ar brosiect Technocaps – dywedodd bod hi’n reit hawdd creu/addasu dosbarthiad (distro) Linux newydd.
Os yw pethe fel Technocamps yn mynd o nerth i nerth, ni fydd yn syniad rhy ffol.
Ges i un Dolig, ac yn defnyddio nhw yn y gwaith, byswn i’n hoffi gweld sesiwn, a helpu os galla’i.
Sut sesiwn ddylia cael ei rhedeg ar yr Pi? Un cyffredin ar yr Pi, ta rhywbeth mwy arbenigol?
Gallen ni wneud y ddau – efallai rhannu mewn dau grŵp mewn corneli o’r un stafell?