Digwyddiad yn Aberystwyth: Targedu’r cyhoedd trwy’r We – sut mae pobl Cymru yn amsugno gwybodaeth heddiw?

Digwyddiad wythnos nesaf yn Aberystwyth sydd efallai o ddiddordeb i gymuned Hacio’r Iaith:

Targedu’r cyhoedd trwy’r We – sut mae pobl Cymru yn amsugno gwybodaeth heddiw?

Lleoliad: Swyddfa FBA, Aberystwyth.

Dyddiad: Dydd Iau, 31 Mai 4:30y.h

Manylion Cwrdd: Derbynfa FBA am 4:30y.h

Yn dilyn nifer o brosiectau, bydd cwmni ymchwil blaengar Beaufort yn trafod ei ymchwil ddiweddaraf gan roi blas ar ymchwil yn y maes cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol yng Nghymru.

Fel rhan o’r digwyddiad bydd aelodau yn derbyn deg pwynt ar ffyrdd o dargedu’r cyhoedd yng Nghymru.

RSVP: Rhaid cadarnhau eich bod yn mynychu’r digwyddiadau trwy e-bostio cyswllt@fbagroup.co.uk Cofiwch mai’r cyntaf i’r felin gaiff falu!

Unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: Meilyr Ceredig ar meilyr@fbagroup.co.uk