Mae Wikimedia UK yn cynnig cwrs hyfforddiant deuddydd o’r enw Hyfforddi’r Hyfforddwyr yng Nghaerdydd ar benwythnos y 1af a’r 2il o Chwefror yng Nghaerdydd. Cwrs cyffredinol ar fod yn hyfforddwr ydyw, ac nid ar sut i olygu’r Wicipedia. Darperir yr hyfforddiant drwy gyfrwng y Saesneg, ond rhoddir blaenoriaeth i siaradwyr Cymraeg er mwyn gallu cynorthwyo gyda proseictau… Parhau i ddarllen Cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwyr, Caerdydd. 1-2/2/2014
Tag: Wikimedia UK
Cynhadledd EduWiki 2013 (Wikipedia mewn Addysg): Caerdydd, 1 a 2 Tachwedd
Mae bellach modd cofrestru ar gyfer cynhadledd EduWiki 2013, sef ail gynhadledd Wikimedia UK i drafod prosiectau addysgol. Cynhelir y gynhadledd yng Nghaerdydd ar y 1 a 2 o Dachwedd a bydd yn trafod ystod eang o bynciau o Adnoddau Dysgu Agored, Rhaglen Addysgol Wikipedia, asesu ac achredu, tybiaeth feirniadol, llythrennedd digidol a llythrennedd Wikipedia.… Parhau i ddarllen Cynhadledd EduWiki 2013 (Wikipedia mewn Addysg): Caerdydd, 1 a 2 Tachwedd
SWYDD: Rheolwr i Gymru (Prosiect Wicipedia)
Dyma hysbyseb swydd a ymddangosodd yn Golwg yr wythnos hon: Mae Wici Cymru a Wikimedia UK yn chwilio am Reolwr i Gymru i ddatblygu’r Wicipedia Cymraeg a Saesneg yng Nghymru drwy ysbrydoli a hyfforddi golygyddion newydd drwy gynllun y prosiect Llwybrau Byw! Dylai’r Rheolwr fod yn brofiadol mewn: golygu prosiectau Wicimedia (Cymraeg a Saesneg), cefnogi… Parhau i ddarllen SWYDD: Rheolwr i Gymru (Prosiect Wicipedia)