Mae rhaglen HootSuite nawr wedi agor eu system i gael ei leoleiddio. http://translate.hootsuite.com/ Dyma’r hyn sydd agen ei wneud yn y Gymraeg: http://translate.hootsuite.com/cy/ Unrhyw wirfoddolwyr. Dwi’n credu bod y Llyfrgell Gen yn ei ddefnyddio felly byddai na ambell berson yno fyddai’n cyfrannu hefyd siwr o fod.
Tag: lleoleiddio
WordPress 3.0 – profi’r cyfieithiad Cymraeg newydd, cymorth!
Annwyl aelodau a darllenwyr Hacio’r Iaith Diolch i Rhos Prys am cyfieithu WordPress 3.0 Mae haciaith.cymru yn rhedeg y cyfieithiad nawr. 1. Sut mae e? 2. Wyt ti’n gallu gadael sylw os ti’n ffeindio unrhyw problem gyda fe plis? Aelodau, peidiwch anghofio’r Bwrdd Rheoli hefyd. Diolch. (Paid â sôn am y thema P2, rhaid i… Parhau i ddarllen WordPress 3.0 – profi’r cyfieithiad Cymraeg newydd, cymorth!
Cyfieithiad phpMyAdmin ar y ffordd
http://ydiafol.blogspot.com/2010/06/phpmyadmin-ar-y-ffordd.html
WordPress 3.0
Mae WordPress a WordPress MU yn ymuno gyda’i gilydd yn y fersiwn nesaf. http://wordpress.org/development/2010/02/menus-merge-patch-sprint/ Dylen ni dechrau’r cyfieithiad NAWR! (Dyn ni’n gallu ailgylchu hen gyfieithiad). Os ti eisiau ymuno’r project cyfieithiad, gadawa sylw. Diolch!
Pootle – teclyn cyfieithu
Dw i’n profi Pootle ar hyn o bryd – am meddalwedd. Dych chi erioed wedi defnyddio fe? Dewch i Pootle ar Locamotion http://pootle.locamotion.org/accounts/register/ Mae’n bosib i rhedeg yr un meddalwedd dy hun ar dy wefan.
Newydd weld cyflwyniad Gruffydd Prys am …
Newydd weld cyflwyniad Gruffydd Prys am y ferswin Cymraeg o’r gêm Civilization IV, mwy ar ei wefan: http://www.civilizationcymraeg.com/wordpress/
Gruffydd Prys “Os ydan ni’n ariannu cy…
Gruffydd Prys “Os ydan ni’n ariannu cyfieithu gweithiau mawr o lenyddiaeth yna dylen ni’n sicr ariannu cyfieithu gemau cyfrifiaduron.”
Gruffydd Prys rwan yn siarad am gyfieith…
Gruffydd Prys rwan yn siarad am gyfieithu gem gyfrifiadur Civilisation IV i’r Gymraeg.
Di son am fy ymdrech shimpil i i leoleid…
Di son am fy ymdrech shimpil i i leoleiddio Drupal, a faint mor annodd oedd o i ddeall cyd-destun pan roedd cymaint o strings i’w trosi. Eraill yma’n dwedud bod y gwendid gwreiddiol yn y fersiwn Saesneg sy’n cael ei gyfieithu.
Gwrando ar sesiwn ar leoleiddio wedi ei …
Gwrando ar sesiwn ar leoleiddio wedi ei arwain gan Rhys Wynne ac Iwan Standley. Pawb yn siarad bod angwen cydweithio mewn rhyw ffordd. Annodd: cael cywirdeb vs lleoleiddio cyflym + cywair mwy anffurfiol. Oes angen ffordd o greu lleoleiddiadau wedyn bod y rheiny’n cael eu prawfddarllen? (Da ni wedi bathu term newydd heddiw gyda llaw:… Parhau i ddarllen Gwrando ar sesiwn ar leoleiddio wedi ei …