Mae swydd datblygydd ar gael yn asiantaeth digidol Imaginet yng Nghaerdydd, yn datblygu amrywiaeth o wefannau ac apps. Mi fyddwch yn gallu troi dyluniadau o Photoshop mewn i HTML/CSS/Javascript ar gyfer eu datblygu ymhellach ar dechnoleg LAMP. Mi fydd yna hefyd gyfleon o ran datblygu apps traws-blatfform yn defnyddio Cordova ac AngularJS. Mae manylion pellach… Parhau i ddarllen SWYDD: Datblygydd Gwe ‘Pen Blaen’
Categori: Amrywiol
Linux Mint 17.1 wedi ei ryddhau yn y Gymraeg
Dros y penwythnos ryddhawyd rhifyn newydd o un fersiynnau mwyaf poblogaidd o Linux, sef Linux Mint. Unwaith eto mae rhyngwyneb Linux Mint ar gael yn Gymraeg. Gyda bod y dosbarthiad wedi ei seilio ar Ubuntu mae’n cynnwys y deunydd Cymraeg o’r dosbarthiad hwnnw hefyd. Diolch i’r criw fu’n cyfrannu at y cyfieithiad Cymraeg
Geiriadur Bangor – geiriadur.bangor.ac.uk
Erbyn hyn mae Geiriadur y BBC nôl yn fyw dan ei enw newydd Geiriadur Bangor. Mae wedi’i letya ar wefan Prifysgol Bangor ar http://geiriadur.bangor.ac.uk/. Cyfuniad yw e mewn gwirionedd o eiriadur cyffredinol Cysgair, sy’n rhoi geirfa gyffredin y Gymraeg a’r Saesneg, a Y Termiadur Addysg, sy’n rhoi termau wedi’u safoni ar gyfer addysg ysgol a… Parhau i ddarllen Geiriadur Bangor – geiriadur.bangor.ac.uk
Arolwg: pa mor ddiogel ydy gwefannau poblogaidd yng Nghymru?
Dafydd Tomos yn dweud ar ei flog: […] Wrth reswm fe ddylai unrhyw daliadau ar lein fod yn ddiogel. Ar gyfer gwefannau masnachol neu wasanaethau cyhoeddus mae arfer da yn awgrymu y dylai unrhyw wybodaeth breifat gael eu ddiogelu hefyd e.e. cyfrinair, manylion archeb, cyfeiriad. Dyw’r wefan hon ddim yn defnyddio SSL am nifer o… Parhau i ddarllen Arolwg: pa mor ddiogel ydy gwefannau poblogaidd yng Nghymru?
Firefox Datblygwyr\Firefox Developer Edition
Mae Mozilla wedi dewis ei ddiwrnod pen-blwydd yn 10 oed i lansio porwr newydd yn benodol ar gyfer datblygwyr – Firefox Developer Edition. Mae’r porwr ar gael o wefan Firefox Developer Edition yn Gymraeg. Yn y gorffennol, mae Firefox wedi cynnwys offer ar gyfer datblygwyr ond mae hwn yn cynnwys popeth fydd ei angen ar… Parhau i ddarllen Firefox Datblygwyr\Firefox Developer Edition
Pen-blwydd Hapus Firefox yn 10 Oed Heddiw!
Mae’r porwr gwe Firefox yn dathlu deg mlynedd ers ei sefydlu fel pecyn annibynnol o’r casgliad o raglenni crëwyd gan Netscape. Mae’r rhaglen wedi dod yn boblogaidd iawn ac yn cystadlu gydag Internet Explorer, Chrome ac Opera am le yn y farchnad porwyr gwe. Un o gryfderau Firefox yw ei gymuned o ddatblygwyr gwirfoddol sydd… Parhau i ddarllen Pen-blwydd Hapus Firefox yn 10 Oed Heddiw!
Dathliad arbennig Firefox yfory!
Bydd Firefox yn dathlu diwrnod arbennig iawn yfory a hynny’n cynnwys y gwaith o ddarparu fersiwn yn Gymraeg. Cadwch lygad allan am wybodaeth am y dathliad ac yn y cyfamser ewch i wefan Gymraeg Mozilla i ddysgu rhagor am waith Mozilla a sut fedrwch chi gefnogi’r gwaith hwnnw. Mae modd gosod Firefox yn Gymraeg ar… Parhau i ddarllen Dathliad arbennig Firefox yfory!
Cwrs e-Gyhoeddi gyda @CULT_Cymru yng Nghaerdydd
Mae CULT Cymru yn trefnu cwrs am e-gyhoeddi. Darparir y cwrs yng Nghaerdydd ar 8fed o Dachwedd 2014 trwy gyfrwng y Gymraeg. Gofynnwch i CULT Cymru yn uniongyrchol am ragor o fanylion neu gofrestru.
Ystadegau WordPress 4.0 Cymraeg
O fewn peiriant cynhyrchu WordPress 4.0 Cymraeg mae peiriant cyfrif sawl copi sydd wedi cael eu llwytho i lawr yn ôl iaith. Fel mae’n sefyll heddiw mae 104 copi o’r un Cymraeg wedi ei lwytho i lawr, sy’n fwy na fyddwn i wedi disgwyl. Wrth gwrs, mae’n bosib mai’r ffigwr go iawn yw 52 a… Parhau i ddarllen Ystadegau WordPress 4.0 Cymraeg
BBC yn lladd Geiriadur Ar-lein
Mae BBC newydd dynnu eu geiriadur Cymraeg-Saesneg i lawr. Mae’n anodd deall y rhesymeg tu ôl i’r penderfyniad yma, sef diffyg gallu i gefnogi’r technoleg yn y cefndir. Mantais y geiriadur BBC oedd y rhyngwyneb syml. Dw i’n ymwybodol bod cyfieithwyr proffesiynol a defnyddwyr amatur yn ogystal yn ei ddefnyddio fel ffynhonnell ddibynadwy trwy’r dydd. Ddylen… Parhau i ddarllen BBC yn lladd Geiriadur Ar-lein