Pen-blwydd Hapus Firefox yn 10 Oed Heddiw!

Mae’r porwr gwe Firefox yn dathlu deg mlynedd ers ei sefydlu fel pecyn annibynnol o’r casgliad o raglenni crëwyd gan Netscape. Mae’r rhaglen wedi dod yn boblogaidd iawn ac yn cystadlu gydag Internet Explorer, Chrome ac Opera am le yn y farchnad porwyr gwe. Un o gryfderau Firefox yw ei gymuned o ddatblygwyr gwirfoddol sydd wedi datblygu tua 40% o’r cod o fewn y rhaglen, ei gyfieithu i hyd at 87 o ieithoedd a chefnogi’r corff gydag ymgyrchoedd i gadw’r we’n agored, diogel a dysgu sgiliau i gyfrannu at y we.

Ers dyddiau Netscape, sy’n fwy na deg mlynedd yn ôl, mae’r criw sydd wedi bod yn paratoi’r fersiwn Cymraeg wedi bod yn brysur yn sicrhau fod y cyfieithiad yn cael ei ryddhau’n rheolaidd. Erbyn hyn mae’r dyddiau o weithio’n uniongyrchol gyda’r cod ar weinyddion Mozilla wedi dod i ben ac mae’r cyfieithiad yn cael ei baratoi drwy blatfform cyfieithu Pootle. Mae’r criw wedi derbyn cydnabyddiaeth Mozilla ac mae eu henwau wedi eu goleuo yn Nghaliffornia!

Diolch hefyd i Osian ap Garth am ddarparu’r Geiriadur Cymraeg ers 2010, fel ychwanegyn gwirio sillafu ar gyfer llanw ffurflenni ar-lein ac yn y blaen. Mae di bod yn wych ar gyfer ei ddefnyddio yn Pootle!

Mae Firefox ar gael o wefan Cymraeg Mozilla ar gyfer Apple, Linux a Windows ac mae Firefox Android ar gael yn Gymraeg ar gyfer ffonau a thabledi Android o Play Store, Google.

Pethau eraill sydd ar y gweill ond efallai nid yn fuan:

Firefox OS – meddalwedd ffôn symudol, tabledi, teledu, Raspberry Pi ac yn y blaen, yn Gymraeg. Bydd hi’n flwyddyn neu ddwy cyn bod ffonau digon pwerus a chaboledig yn rhedeg Firefox OS ymddangos ar y farchnad ym Mhrydain, ond mi fydd fersiwn Cymraeg ar gael!

Os hoffech gael golwg ar fersiwn datblygol ohono yn Windows, mae modd ei lwytho i lawr, echdynnu’r ddelwedd a chlicio ar bash ac aros am dipyn a bydd y rhaglen yn agor.

Thunderbird a Lightening -y rhaglenni e-bost a dyddiadur