Firefox Datblygwyr\Firefox Developer Edition

Firefox Datblygwr - rhyngwyneb

Mae Mozilla wedi dewis ei ddiwrnod pen-blwydd yn 10 oed i lansio porwr newydd yn benodol ar gyfer datblygwyr – Firefox Developer Edition. Mae’r porwr ar gael o wefan Firefox Developer Edition yn Gymraeg. Yn y gorffennol, mae Firefox wedi cynnwys offer ar gyfer datblygwyr ond mae hwn yn cynnwys popeth fydd ei angen ar gyfer datblygwyr i weithio ar draws platfformau lluosog.

Beth sydd yma i gyd?

Y peth cyntaf i sylwi arno yw’r thema newydd tywyll. Mae’n seiliedig ar y thema sydd wedi bod i’r offer datblygwyr yn y gorffennol ac yn gynnil ei le er mwyn gadael mwy o le ar draws y sgein i ddefnyddio’r offer.

Mae dwy nodwedd newydd pwerus wedi eu cynnwys o fewn y porwr, Valence a WebIDE sy’n gwella’r llif gwaith ac yn gymorth i ddadfygio porwyr ac apiau eraill  yn uniongyrchol o fewn Firefox Developer Edition.

Mae Valence (sef yr hen Addasydd Offer Firefox) yn caniatáu i chi ddatblygu a dadfygio eich apiau ar draws porwyr lluosog a dyfeisiau drwy gysylltu offer datblygwyr Firefox i beiriannau’r prif borwyr eraill. Mae Valence hefyd yn estyn yr offer pwerus sydd wedi eu creu i ddadfygio Firefox OS a Firefox Android i’r prif borwyr eraill gan gynnwys Chrome ar Android a Safari ar iOS. Hyd yn hyn mae’r offer yn cynnwys yr Archwiliwr, Dadfygiwr a’r Consol a’r Golygydd Arddull.

Mae WebIDE yn caniatáu datblygu, darparu a dadfygio apiau Gwe yn uniongyrchol o fewn eich porwr, neu ar ddyfais Firefox OS. Mae’n caniatáu i chi greu apiau Firefox OS newydd (sy’n ap gwe) o dempled, neu agor cod ap cyfredol ac ohono mae modd golygu ffeiliau’r ap. Un clic sydd ei angen i redeg yr ap mewn efelychydd ac un arall i’w ddadfygio gyda’r offer datblygu.

Mae’r Firefox Developer Edition hefyd yn cynnwys yr holl offer mae datblygwyr gwe profiadol yn gyfarwydd â nhw, gan gynnwys:

Modd Cynllunio Ymatebol – gweld sut fydd eich gwefan neu ap Gwe’n edrych ar wahanol faint sgrin heb newid maint ffenestr eich porwr.
Archwiliwr Tudalen – archwilio’r HTML a’r CSS o unrhyw dudalen Gwe a newid strwythur a chynllun y dudalen yn hawdd.
Consol Gwe – gweld gwybodaeth wedi ei gofnodi, sy’n gysylltiedig â thudalen Gwe a defnyddio’r Consol Gwe a rhyngweithio gyda thudalen Gwe gan ddefnyddio JavaScript.
Dadfygiwr JavaScript – camu drwy god JavaScript ac archwilio neu newid ei gyflwr er mwyn dod o hyd i wallau.
Arsyllydd Rhwydwaith – gweld yr holl ceisiadau rhwydwaith fydd eich porwr yn ei wneud, faint o amser fydd pob cais yn ei gymryd a manylion pob cais.
Golygydd Arddull – gweld a golygu’r arddulliau CSS sy’n gysylltiedig â thudalen Gwe, creu rhai newydd a gosod dalennau arddull CSS i unrhyw dudalen.
Golygydd Sain Gwe – archwilio a golygu API Sain Gwe’n fyw i sicrhau fod yr holl nodau sain wedi eu cysylltu mewn ffordd fyddech yn eu disgwyl.