Helô Hacieithwyr hoff! Ro’n i’n chwilio am bethau ynglyn â Disqus yn Gymraeg yn gynharach pnawn ‘ma a meddwl y baswn i’n cofnodi hyn yn fa’ma – gobeithio y bydd o ddiddordeb! Yn y gwaith (Cwmni Da) dw i a Phil Stead wedi bod yn gweithio ar brosiect cyffrous iawn sy’n cael ei lansio ar… Parhau i ddarllen Generation Beth a Disqus yn Gymraeg
Categori: Amrywiol
Bydd Hacio'r Iaith 2016 ar 16 Ebrill yng Nghaerdydd
Dyma nodyn bach sydyn i ddweud bod digwyddiad Hacio’r Iaith 2016 wedi’i gadarnhau! Rhowch y dyddiad yn eich calendr os gwelwch yn dda: Dydd Sadwrn 16 Ebrill 2016 Caerdydd Trwy’r dydd (Rhagor o fanylion i ddod) Bydd croeso cynnes i bawb ddod i drafod a gwneud pethau ynglŷn ag: y we apiau creadigrwydd ar-lein fideo… Parhau i ddarllen Bydd Hacio'r Iaith 2016 ar 16 Ebrill yng Nghaerdydd
Robotiaid a Straeon Cynllwyn – Dan yr Wyneb
Roedd Dan yr Wyneb neithiwr yn trafod deallusrwydd artiffisial a robotiaid. Mae modd gwrando arno eto drwy wefan y BBC Radio Cymru. Cyflwynydd: Dylan Iorwerth. Cyfranwyr: Osborne Jones, Dr Wayne Aubrey a Rhoslyn Prys. Mae’r llun yn perthyn i’r BBC.
Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes am gyflogi Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol
Dwi’n postio’r swydd yma ar ran Dawn Knight, CorCenCC. Y dyddiad cau yw 24/11/15 ‘CorCenCC – Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes: Dull cymunedol o adeiladu corpws ieithyddol’ Gwahoddir ceisiadau ar gyfer Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol i ymuno â phrosiect rhyngddisgyblaethol ac aml-sefydliadol fydd yn creu corpws ffynhonnell agored o Gymraeg cyfoes ar raddfa eang (CorCenCC). Nod y… Parhau i ddarllen Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes am gyflogi Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol
WordPress iOS ar gael yn Gymraeg
Mae WordPress iOS nawr ar gael yn Gymraeg ac yn gweithio ar iPhone, iPad ac iPad touch. Mae’r ap yn cynnig modd o weithio ar wefannau WordPress.com a gwefannau hunanwesteio ar sail WordPress.org. Mae hefyd yn cynnwys Darllenydd sy’n fodd o ddarllen cynnwys awduron eraill o fewn byd WordPress. Dyma’r cyflwyniad swyddogol: Mae ysbrydoliaeth yn… Parhau i ddarllen WordPress iOS ar gael yn Gymraeg
Telsa Gwynne, 1969-2015
Tua phythefnos yn ôl, clywsom y newyddion trist iawn am farwolaeth Telsa Gwynne, ar ôl anhwylder hir. Roedd yn adnabyddus i nifer fawr ohonom o fewn Hacio’r Iaith: yn ffrind, ac yn gydymaith. Mae hi’n anodd iawn gwneud cyfiawnder â’r amryfal weithgareddau yr oedd Telsa’n ymwneud â hwy. Digon yw dweud eu bod hi’n un… Parhau i ddarllen Telsa Gwynne, 1969-2015
Firefox iOS yn Gymraeg
Os ydych yn ddefnyddiwr iPhone, iPad, iPod touch byddwch yn falch o ddeall fod Firefox iOS nawr ar gael o App Store Apple. Mae Firefox iOS yn caniatáu i chi gymryd eich hoff borwr gyda chi lle bynnag fyddwch yn mynd. Mae’n cynnwys nodweddion poblogaidd – chwilio clyfar a hyblyg, rheoli tabiau yn hawdd, cydweddu… Parhau i ddarllen Firefox iOS yn Gymraeg
Mozilla – Deall yn well am y We
Mae Mozilla wedi cychwyn cyhoeddi cyfres cymorth i ddiogelu defnyddwyr ar y we o dan y teitl Deall yn Well, gan gychwyn gyda Tracio. Mae’r cynnwys yn amlygu beth yw tracio a sut mae cwmnïau ar y we, gan gynnwys trydydd partïon, yn gwneud defnydd o’r data rydym yn ei adael ar ein hôl. Mae’n… Parhau i ddarllen Mozilla – Deall yn well am y We
Firefox 42, yn cynnwys Pori Preifat a Diogelwch rhag Tracio
Mae Firefox 42, newydd ei ryddhau ac yn cynnwys nodwedd newydd o’r enw Pori Preifat gyda Diogelwch rhag Tracio. Hyd yma nid yw pori preifat wedi cadw defnyddwyr rhag cael eu tracio. Does gan y rhan fwyaf o ddefnyddwyr y we ddim syniad fod trydydd partion yn casglu, cadw a gwerthu gwybodaeth amdanyn nhw. Mae… Parhau i ddarllen Firefox 42, yn cynnwys Pori Preifat a Diogelwch rhag Tracio
Gwefannau newyddion Cymraeg – cyfle a syniad
Pwy a ŵyr bod ‘na gwefan o’r enw The Tab sy’n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr gan gynnwys rhai gwrth-Gymraeg? Dyma’r stori yn Golwg360 yr wythnos diwethaf Mae digon o rantio am ffolineb rhai o gyfrannwyr The Tab Cardiff ar Twitter. Nid dyna yw’r math o beth rydym yn wneud ar Hacio’r Iaith. Does dim… Parhau i ddarllen Gwefannau newyddion Cymraeg – cyfle a syniad