Anturiaethau Mewn Cod: sesiwn arbrofol ar-lein i drin a thrafod rhaglennu 29/3/2018

Karen Leadlay 1964 - dim hawlfraint

Helo bobl

Pwy sydd awydd cynnal sesiwn ymarferol o:

  • raglennu
  • datblygu
  • hacio
  • dangos apiau a sgriptiau
  • cyfnewid dolenni i brosiectau?

Rydyn ni am gael sesiwn o Anturiaethau Mewn Cod dros blatfform sgwrsio Telegram.

Fe fydd croeso cynnes iawn i bawb.

Sesiwn gyntaf

Fe fydd y sesiwn gyntaf ar:
nos Iau 29 Mawrth 2018
7yh tan 9yh

Dewch i grŵp Hacio’r Iaith ar Telegram bryd hynny. (Dw i newydd greu’r sianel ar gyfer y sesiwn – i ddechrau.)

DIWEDDARIAD 28 MAWRTH: dw i newydd newid y ddolen i ein grŵp Telegram newydd yn hytrach na sianel (mae sianel ar gyfer darlledu gan unigolyn).

Mae 7 o’r gloch yn teimlo i mi fel amser da i ddechrau, ac wedyn mynd ymlaen tan tua 9 o’r gloch. Ond mae pobl yn gallu parhau os oes rhywbeth o ddiddordeb mawr.

Y platfform

Os ydych chi eisiau cymryd rhan dw i’n argymell eich bod chi’n gosod Telegram ar eich peiriant.

O’n i wedi ystyried platfformau eraill megis Slack, Discord, ayyb ond mae Telegram yn teimlo fel yr un mwyaf rydd gyda’r siawns orau o gynnig rhyngwyneb Cymraeg yn y dyfodol agos. Dw i eisoes yn aelod o gwpl o grwpiau ac mae’n gweithio’n dda. Rydyn ni’n gallu monitro pa mor addas yw e wrth fynd ymlaen.

Rhaglennu, a phynciau eraill

Yn Hacio’r Iaith yng Nghaerdydd eleni roedd ambell i berson wedi dweud bod nhw eisiau cyfle i wneud codio ymarferol neu rannu prosiectau fel apiau maen nhw wedi datblygu. Mae’r sesiwn yn ymdrech i gynnig y cyfle yna.

Cofiwch fod popeth yn arbrofol y tro hwn. Croesawir cyfranogaeth, brwdfrydedd, syniadau, ac adborth!

Wrth gwrs ni fydd y pwyslais a phwnc o ddiddordeb i bawb. Felly gad wybod os ydych chi eisiau cynnal sesiwn debyg ar bwnc arall. Fe geisiaf cynnig help!

8 sylw

  1. Dwi’n gobeithio bod ar hwn i rannu unrhyw bytiau o god dwi efo, ac i adolygu cod a cheisio’u gael i weithio – python, Java, SQL, R etc.

  2. Diolch i bawb am sgwrs mor ddiddorol heno!

    Roedd y pynciau trafod yn cynnwys: straeon mewn Twine, API Facebook, data mawrion Cambridge Analytica, Word2vec, RiscPC, RetroPie, BeebEm, Cofnod y Cynulliad, Raspbian, Poedit, Cysill, APIs Cymreig, CLDR, dysgu rhaglennu, data ar Twitter, ceisio adnabod gender ar y cyfryngau cymdeithasol ac Open Semantic Search…!

    Nos Iau 19 Ebrill fydd yr un nesaf. Croeso cynnes i bawb! Blogiad i ddilyn.

  3. Nes i golli’r sesiwn gyntaf, oes ffordd i mi weld y drafodaeth fuodd ar Telegram? Dim ond yr hyn sy’n dilyn yr amser nes i ymuno sydd i’w weld?
    Hefyd oes posib cael sgwrs am Mastodon.social? Falle byse’n ddifyr archwilio’r posibiliadau 🙂

  4. Helo Rhos.

    Pa ap wyt ti’n defnyddio?

    Mae archifau i weld yn iawn ar Telegram Desktop ar Linux.

    Dw i’n aelod cyffredin, fel petai, o grwpiau eraill ac mae modd gweld archifau cyn i mi ymaelodi.

    Hapus iawn i edrych at Mastodon.social. Yn bendant dylen ni edrych at fabwysiadu pethau cwbl rydd. Oes modd darparu demo neu brawf cysyniadol tybed?

  5. Telegram Desktop ar LinuxMint 18.2/Android 6.
    Yn ôl:
    https://www.quora.com/How-much-of-a-group-chat-history-can-a-newly-added-member-in-Telegram-see?share=1
    In a usual group chat, the person who’s adding a new member can choose how many last messages to re-send to the new member; by default it’s last 50 messages.
    😉

    Mastodon – mae modd ymuno â https://mastodon.social/about neu greu dy enghraifft dy hun. Mae modd lleoleiddio, er mae’n edrych yn fwy technegol na’r cyffredin.

Mae'r sylwadau wedi cau.