Mae Gwyn Llewelyn Williams wedi ysgrifennu darn am heriau i Microsoft Windows Cymraeg yn y sector cyhoeddus a chorfforaethol. Diolch yn fawr iawn i Gwyn.
Ers blynyddoedd bellach mae Microsoft wedi bod yn darparu pecyn rhyngwyneb iaith Cymraeg ar gyfer eu system weithredu Windows – o Windows XP, i Vista, i 7 a rwan i Windows 8. Mae hyn wedi galluogi miloedd o bobl i drin eu cyfrifiadur yn y Gymraeg, ar eu cyfrifiaduron adref, ond hefyd yn eu gwaith. Er enghraifft, mae Cyngor Gwynedd wedi gosod y meddalwedd ar bob un o’u 2500 cyfrifiadur.
Ond, mae’r newid mawr sydd wedi bod ym myd TG corfforaethol yn ddiweddar yn golygu bod argaeledd Windows yn y Gymraeg o dan fygythiad, ac mae rhaid i Microsoft addasu i’r newid yma os am barhau gyda’u hymrwymiad i ddarparu Windows yn y Gymraeg yn y gweithle yn ogystal ag yn ein cartrefi. A dim ondgwaethygu gwneith y sefyllfa fel mae’r diwydiant yn parhau i esblygu.
Er mwyn egluro’r bygythiad yma, mae rhaid egluro’r esblygiad ym myd TG corfforaethol. Tan yn ddiweddar, mae staff mewn cwmnïoedd mawr wedi bod â chyfrifiaduron ar eu desgiau, sy’n cysylltu i wahanol weinyddion ar gyfer mynediad i adnoddau, megis ffeiliau neu raglenni. Golygai hyn lawer o fuddsoddiad mewn caledwedd, trwyddedau Windows ac Office ar ochr y cleient (y defnyddiwr), a chostau trydan o oddeutu 80W pob cyfrifiadur – heb sôn am y gost i adrannau TG y cwmnïau wrth gynnal a chadw’r holl gyfrifiaduron.
Ond mae datblygiadau sylweddol mewn rhithwirio gweinyddion (server virtualization) dros y blynyddoedd diwethaf, a gostyngiad yng nghostau’r caledwedd, yn golygu bod bellach ffordd llawer mwy effeithlon o ymdrin â’r sefyllfa. Er enghraifft, cwmni sydd â 300 o staff – o’r blaen lle buasai’r cwmni wedi gorfod archebu 300 o gyfrifiaduron, 300 trwydded Microsoft Windows, 300 trwydded Microsoft Office, ac oriau o waith yn gosod popeth i fyny arnynt, rwan mae modd cael 2 weinydd, a chreu 15 gweinydd rhithwir oddi fewn iddynt. Buasai’r 300 o staff wedyn yn medru mewngofnodi i’r gweinyddion rhithwir, wedi eu gwasgaru’n hafal drostynt, fel bod tua 20 yn defnyddio pob gweinydd rhithwir ar yr un pryd.
Er mwyn galluogi hyn, yn hytrach na chael cyfrifiadur ar bob desg, y cwbl sydd angen yw dyfais o’r enw cleient tenau (thin client device). Wrth gwrs, mae dal angen llygoden, bysellfwrdd, a sgrîn, ond mae cost cleient tenau tua thraean o bris cyfrifiadur, ac mae’n defnyddio 10 gwaith llai o drydan. Swyddogaeth y cleient tenau wedyn yw cysylltu i sesiwn ar un o’r gweinyddion rhithwir, felly’r gweinydd yma (yn hytrach na chyfrifiadur ar eich desg) sy’n darparu’ch desgfwrdd – h.y. eich eiconau, eich rhaglenni, a.y.b. Ond buasech chi ddim callach o hyn, achos mae desgfwrdd a ddarparwyd gan Windows Server yn edrych yn union yr un peth a desgfwrdd a ddarparwyd gan y Windows cyffredin. Gan fod y gwaith prosesu i gyd yn digwydd ar ochr y gweinyddion, yn hytrach nag ar y cleient tenau, buasai dyfais cleient tenau yn para 10 mlynedd cyn bod angen ei gyfnewid am fodel newydd, o’i gymharu â 4-6 mlynedd ar gyfer cyfrifiaduron – felly mae hyn yn arbediad pellach.
Ond – a dyma ble mae’r pecyn iaith yn dod i mewn i’r drafodaeth – i rai sy’n defnyddio system o’r fath, nid pecyn rhyngwyneb iaith i Windows sydd angen bellach, yn hytrach, un ar gyfer Windows Server. Ond does dim un o’r fath yn bodoli, ac mae Microsoft hyd yma wedi gwrthod ymrwymo i greu un. Felly mae unrhyw berson sy’n defnyddio cleient tenau yn eu gwaith yn cael eu gorfodi i wneud hynny drwy gyfrwng y Saesneg, yn hytrach na bod ganddynt y dewis. Yr opsiwn arall wrth gwrs yw rhoi cyfrifiadur cyffredin iddynt yn ei le – ond felly mae rhywun yn gorfod dewis – un ai arbed ynni a chost i’ch cyflogwr neu ddefnyddio Windows yn Gymraeg – nid oes modd cael y ddau yn absenoldeb y pecyn iaith yma. Wrth gwrs, enghraifft ydy’r ffigyrau uchod, ond y mwyaf y cwmni y mwyaf yr arbediad drwy symud drosodd i system o’r fath. A phan mae cwmnïau neu gyrff cyhoeddus â miloedd o aelodau o staff, mae symud drosodd yn anochel, yn enwedig yn sgil sefyllfa ariannol echrydus y Deyrnas Unedig, yn ogystal â’r ddyletswydd sydd arnom oll i arbed ynni.
Gan fod Windows Server 2008 R2 bellach yn bum mlynedd oed, dwi’n credu ei bod hi’n ormod i ofyn iddyn nhw fuddsoddi mewn pecyn iaith ar gyfer hwn, ond mae Windows Server 2012, ar y llaw arall, yn stori wahanol. Fel mae technoleg cleient tenau yn mynd yn fwyfwy poblogaidd (ac felly mae’r tueddiad byd-eang) ac yn mynd fwy o fewn cyrraedd cwmnïau llai, mae diffyg pecyn rhyngwyneb iaith i Windows Server yn mynd yn fwy o rwystr i gael Windows drwy’r Gymraeg yn y gweithle. Bûm yn pwyso ar yr hen Fwrdd Iaith am ddwy flynedd yn eu rhybuddio am hyn, ac fe ddaru nhw ymdrech o ryw fath i bwyso ar Microsoft i greu pecyn iaith, ond yn ofer. Rwyf hefyd wedi pwysleisio’r angen am y pecyn iaith yma wrth Reolwr Busnes Microsoft dros Sector Cyhoeddus Cymru, ond eto, ofer bu fy ymdrechion. Mae felly angen cynyddu’r pwysau ar Microsoft yn sylweddol, a’r unig ffordd o gyflawni hyn yn fy marn i yw os yw gyda help y Cynulliad, ac yn benodol Leighton Andrews.
Mae Windows Server 2012 eisoes ar gael mewn 36 iaith, ond yn anffodus nid yng Nghymraeg…
Heb hyd yn oed grybwyll y sector breifat, mae’r Gwasanaeth Iechyd, a phob un o’r chwe chyngor sir yng Ngogledd Cymru wedi ymrwymo i fynd i lawr y trywydd cleientiaid tenau yn y dyfodol agos, gyda Gwynedd, er enghraifft, eisoes wedi gosod 500 ohonynt i’w staff.
gan Gwyn Llewelyn Williams