Efallai i chi gofio i ni drefnu Hacio’r Iaith Bach: Newyddion lleol yn y ddinas ym mis Mai 2012. Roedd hi’n noson dda. I’r rhai a fynychodd y noson honno, efallai bydd y canlynol o ddiddordeb i chi:
- Newyddion a Chwaraeon Lleol
- Blogiau
- Adolygiadau
- Bwytai a Thafarndai
- Cymdeithasau a Mudiadau
- Rhwydweithiau Cymdeithasol
- Busnesau Lleol
- Digwyddiadur
Os yw un neu fwy o’r uchod o ddiddordeb i chi, beth am ymuno â ni’n Chapter, Nos Lun nesaf, Ebrill 7 am 7.30pm
Mae Menter Caerdydd, mewn parterniaeth â’r Dinesydd a Phrifysgol Caerdydd yn edrych i ddatblygu gwefan newydd a fydd yn hwb cymunedol i’r Brifddinas. Ein bwriad yw datblygu cymuned ar-lein a fydd yn ffynhonell o wybodaeth rhyngweithiol fywiog a pherthnasol i fywyd bob dydd yng Nghaerdydd.
Hoffem eich gwahodd i’r cyfarfod cyntaf er mwyn casglu barn a phrofiadau cynifer o bobl a phosib, i sicrhau ein bod yn creu gwefan a fydd yn apelio at ystod eang o bobl o bob oed.
Diolch i Betsan Powys am gytuno i arwain y cyfarfod cyntaf, felly beth am ymuno â ni i drafod a llywio dyfodol y prosiect newydd cyffrous hwn.
Croeso i bawb.
Sian Lewis
Prif Weithredwr/Chief ExecutiveMenter Caerdydd
42 Lambourne Cres
Llanishen
Caerdydd
CF14 2TE02920 689888
Mwy am y wefan arfaethedig mewn erthygl ar Golwg360.
Aeth rhywun i’r cyfarfod yma?
Do, aeth Carl a fi yn ogystal a nifer o bobl eraill. Cyfarfod adeiladol iawn.
Ebostia sianlewis@mentercaerdydd.org os wyt ti am gyfrannu at symud y prosiect yn ei flaen.
Do. Wrthi’n prosesu.
Diolch Colin. Ro’n i wedi cysylltu i ymddiheuro a nodi diddordeb.
Wedi gweld datganiad i’r wasg rwan ar wefan Menter Caerdydd (er mae rhan o ohono yn anweledig!)
Gyda llaw mae recordiad awdio gyda fi ond heb cael siawns i wrando arno fe eto.