Firefox Android Cymraeg

Mae Mozilla wedi bod yn edrych ar y dull gorau o ddosbarthu’r cyfieithiadau o Firefox Android sydd ganddynt ar Google Play.

Mae’r ‘prif ieithioedd’ eisoes ganddynt ar gael. Mae’n edrych nawr fel eu bod yn barod i symud ymlaen gyda’r grŵp nesaf o ieithoedd. Hyd yma mae’r ieithoedd wrth gefn wedi bod ar gael ar weinydd nosweithiol Aurora. Fel mae’r enw’n awgrymu mae rhain yn cael eu diweddaru yn nosweithiol ac o ansawdd anherfynnol. Mae fy un i ar HTC Flyer yn chwalu’n rheolaidd ar wefan Golwg360. Hmmm.

Mae modd llwytho’r ap i lawr o’r gweinydd sydd yn

/pub/mozilla.org/mobile/nightly/latest-mozilla-aurora-android-l10n

a dewis y ffeil fennec-XX.XXX.cy.android-arm.apk (XX yw’r fersiwn – mae’n newid dros amser – y cy sy’n bwysig)

Byddwn yn falch o dderbyn adborth ar y cyfieithiad a syniadau ar sut i godi proffil yr ap ar gyfer pan/os fydd yn ymddangos ar Google Play. Cyfeiriad: post@meddal.com.

Firefox Android Cymraeg

Mae manylion llawn y porwr yn Firefox Android ar gael ar wefan Mozilla .

Dyw e ddim yn gweithio ar ffonau Apple. 😉

3 sylw

  1. Rhos, dw i wedi trwsio’r cyfeiriad i’r gweinydd – anghofiaist ti’r darn FTP dw i’n meddwl.

    Dw i wedi cael cip ar Firefox ar Android. Mae’r meddalwedd wedi gwella lot yn y misoedd diwethaf! Ac mae’r cyfieithiad yn wych wrth gwrs. Da iawn. Diolch yn fawr i ti am dy waith caled.

  2. Dwi’n defnyddio hwn ers rhai wythnosau erbyn hyn. Hoffwn pe bai yn ail-meintio cynnwys i ffitio’r sgrin fel mae rhai porwyr eraill.

Mae'r sylwadau wedi cau.