Hacio’r Iaith 2012: Beth gafodd ei drafod?

Hacio'r Iaith 2012 (llun gan Atgof - Iestyn Hughes)

Wel, dwi ddim yn siwr os dwi cweit wedi dod at fy hun eto, ond dwi’n hapus iawn efo sut aeth pethau dros y penwythnos. Mi dria i sgwennu cofnod blog yn son am y digwyddiad o’n safbwynt i yn rhywle, arall ond am y tro hoffwn i roi snapshot cyflym o’r holl bynciau gafodd eu trafod ddydd Sadwrn.

Dwi newydd fod yn pori dros y grid a’n trio cofnodi teitlau’r holl sesiynau ddigwyddodd ddydd Sadwrn er mwyn eu cynnwys yn y fideos. Dwi’n meddwl bod ambell un ar goll gen i, a’n sicr ambell enw, ond dyma’r rhestr fel mae’n sefyll. Os oes angen cywiro unrhywbeth / cynnig teitl gwahanol plis allwch chi adael i fi wybod yn reit fuan fel ein bod ni’n gallu rhoi’r teitl cywir ar y fideos.

Am resymau adnoddau wnaethon ni ddim llwyddo i ffilmio unrhyw sesiynau o’r Ystafell Ymarfer felly sori am hynny! Fel mae’n digwydd roedd na sawl sesiwn da iawn yno. C’est la vie, c’est la mer, c’est le pomme de terre!

Y Stiwdio

  • E-lyfrau Cymraeg (Delyth Prys, Canolfan Bedwyr)
  • Cyngor Gwe Cymru (Gwydion Gruffydd)
  • Pwy Sy’n Rheoli’r We? (Jim Killock, Open Rights Group)
  • Yr Haclediad (yn fyw o Hacio’r Iaith 2012)
  • Cyfieithu Peiriannyddol Newydd (Gruff Prys, Prifysgol Bangor)
  • Dysgwyr, iTunesU, Mwdl (Maldwyn Pate)
  • Cymuned a Cwrs Dysgwyr ‘Say Something in Welsh’ (Leia Fee ac Ivan Baines)
  • Ffeiliau Iaith Ar-lein (Pete Arnold)
  • © Creative Commons – Rhannu neu Gadw (Jim Killock)
  • Wicipedia – Denu Cyfrannwyr a Thips Golygu (Rhys Wynne)
  • Cwrs Newydd Cyfle – Stwnsh Archif (Rhys Miles Thomas)
  • Radio’r Cymry (Huw Marshall)
  • Sesiwn Gloi Hacio’r Iaith 2012

Ystafell G38

  • Dyfodol Newyddion Lleol (Sion Richards a Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth)
    Sesiwn Twitter
  • Dadansoddi Rhwydweithiau Twitter (Hywel Jones)
  • Defnydd Cymraeg a Saesneg ar Twitter Gan Grwp Rhwng 2009-2011 (Ian Johnson)
  • Pwer yr # (Bethan Davies)
  • Ffilmiau Byr Cymraeg i’r We Wedi Saethu Gyda DSLR (Rhys Llwyd)
  • Y We a Newyddiaduraeth Fideo (Sara Penrhyn Jones)
  • Sianel 62 – Sianel Fideo Newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (Lleucu Meinir)
  • Fflachio’r Iaith – Sgwrs am Android, aps, cyfieithu ac Eclipse (Carl Morris)
  • Cyfieithu Ubuntu (Mark Jones a Christopher Griffiths)

Ystafell Ymarfer 1 (dim recordiad)

  • Theatr a Thechnoleg Kinect (David Haylock)
  • Paned a Chacen – Blogio Bwyd (Elliw Gwawr)
  • S4C 2.0 (Bryn Salisbury)
  • Sensorio ar y We (Jim Killock)
  • Gwerthu Ffuglen Ar-lein (Daniel Glyn a Gethin Thomas, Damage)
  • Creu E-Lyfrau (Iestyn Lloyd)
  • E-Nofel Unnos (Elin Haf Gruffydd Jones)

6 sylw

  1. Y Dorf v HSBC oedd syniad Owain Elidir ond doedd dim digon o amser i’w gynnal yn anffodus.

    Pwer yr # (hashtag) oedd un o syniadau Bethan Davies yn ogystal â syniad am sesiwn marchnata digidol. Dw i ddim yn siwr beth ddigwyddodd gyda’i syniadau yn y pen draw.

    (Gobeithio fod e’n iawn i’u henwi yn y sylw yma.)

    Collais i gymaint o sesiynau da!

  2. Do, fe wnaeth Jim Killock gynnal sesiwn ar sensoriaeth yn y Stafell Ymarfer. Mond pump aeth i wrando, ond cafwyd trafodaethau da.

  3. Diolch am yr ychwanegiadau. Ma’n gyflawn rwan dwi’n meddwl. Na’i addasu eto ar ol bod trwy’r fideos.

Mae'r sylwadau wedi cau.