Rhai wythnosau’n ôl, cefais wahoddiad drwy Facebook gan berthynas i mi sy’n trefnu Bedwen Lyfrau 2011, sy yng Nghaerdydd eleni. Fel arall, faswn i ddim yn ymwybodol bod digwyddiad y Fedwen Lyfrau yn y brifddinas eleni. Dyma fynd i chwilio am fwy o fanylion a darganfod bod trafodaeth diddorol ar ddiwedd y dydd:
Y dyfodol i lyfrau… Yn oes y Kindle a’r iPad, beth yw dyfodol argraffu? A oes mwy o bobl yn darllen blogiau na llyfrau bellach?
Tybed sut fydd pobl yn darllen gwaith ein cenhedlaeth ni yn y dyfodol?
Gyda Sion Jobbins a’r blogiwr Carl Morris /NativeHQ
Ddim yn siwr pa mor ddefnyddiol yw cymharu blog gyda llyfr, ond gobeithio bydd ffigyrau ar gael. Os yw’n helpu, roedd 400+ o ddarllenwyr dyddiol gan y Blogiadur ar gyfartaledd yn mis Mefefin 2007, tra mae Ifan Morgan Jones yn trafod gwerthiant ei ddwy nofel ar ei flog (ble mefyd cewch ddwy gofnod am Kindle).
Ah diolch. Gobeithio bydd e’n sgwrs gynhyrchiol.
Mae llyfrau electronig yn gyfle enfawr i gwmnïau cyhoeddi!
O safbwynt y gwmnïau, mae’n defnyddiol i weld pethau fel “darllen blogiau vs darllen llyfrau”, neu “elyfrau vs print” fel perthnasau yn hytrach na cystadleuaeth.
Ces i amser da heddiw – sgyrsiau da. Dylen ni gwahodd rhai o’r bobol Bedwen Lyfrau i ddigwyddiadau Hacio’r Iaith.
Roedd y sesiwn Y Dyfodol i Lyfrau yn hwyl er bod e bach yn fyr – dim lot o amser i drafod pethau yn ffordd fanwl iawn. Yn enwedig, o’n i eisiau archwilio’r cytundeb Faustaidd gyda chwmnïau fel Amazon. Dw i’n licio’r cysyniad o e-lyfrau, dylai llyfrau Cymraeg bod ar gael i bobol beth bynnag yw’r platfform. Mae cyfleoedd i’r cwmnïau cyhoeddi. Ond fydda i ym mhersonol brynu rhywbeth o gwmni sy’n dibynnu ar DRM heb warant os dw i eisiau trosglwyddo’r llyfrau i ddyfais arall yn y dyfodol? Hmm..
Nes i joio’r sesiwn am gomics a chyfieithiadau Tintin.
Beth feddyliest ti Rhys?
Sesiwn diddorol, a biti garw ei fod mor fyr, o ystyried pwsigrwydd y pwnc. Gwnaeth Sion Jobbins job dda o wisgo dwy het (adran digideiddio’r Llyfrgell Genedlaethol a chadeirydd (?) presenol Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru) – byddai rhwyn o un o’r gweisg sy wedi dechrau gwerthu e-lyfrau (ai dim ond y Lolfa sydd wedi?) ar y panel wedi bod yn dda.
O ran y Cwlwm Cyhoeddwyr, roedd yn swnio fel eu bod yn gweld bygythiadau yn hytrach na chyfleodd, a’u dau prif ofid ydy:
1. Pobl yn medru copio a dosbarthu elyfrau am ddim
2. gostyniad mewn incwm
O ran gofid 1., efallai mod i’n bod yn naif, ond dw i ddim yn meddwl bod rhaid iddynt boeni bydd yr un peth yn digwydd a sydd wedi digwydd i’r diwydiant cerddoriaeth byd-eang, oherwydd dw i’n meddwl mai ychydig iawno gopio CD’s cerddoriaeth Cymraeg fuoedd yna gan bod pobl yn reit driw i’r cerddorion, ac ynsylweddoli pa mor fach ydy eu gwerthiant yn barod. Yn yr un modd, dw i’n meddwl bod darllenwyr Cymraeg yn fwy tebygol o brynu llyfr Cymraeg na’i fenthyg o lyfrgell, eto oherwydd ffyddlondeb i’r gweisg Gymraeg.
Fel y nodaist ar y dydd, prin iawn yw’r data/profiad sy gyda ni o’r dechnoleg hyn gyda llyfrau Cymraeg/ieithoedd lleafrifol i weld beth fydd y patrwm defnydd, ond hoffais awgrym Penri y basai’n syniad da rhoi llyfrau Cymraeg Stori Sydyn mas am ddim drwy e-lyfr.
O ran gofid dau, os deallais yn iawn, poeni am y cut bydd Amazon yn gymryd oedden nhw? Dychmygaf bod cut Amazon ar Kindle yn debyg i’w cut sylweddol o werthu llyfrau ar eu gwefan, ac mae llyfrau Cymraeg bellach ar Amazon, achos mae’r cyhoeddwyr yn sylweddoli, mae sawl achos, os na all cwsmer brynnu llyfr ar Amazon, mi benderfynan nhw brynu llyfr arall yn hytrachna chwilio amdano rhywle arall (er bod modd prynnu llyfrau Cymraeg yn hawdd ar-lein dyddiau yma mewn sawl lle). Yny dyfodol, os na fydd llyfr ar gael i’w brynnu ar Kindle, fydd o ddim yn cael ei brynu full-stop.
Hoffais hefyd dy syniad y gallwn i gyd fod i yn lyfrgellwyr bellach yn llyfrgell byd-eang y we, ac y dylwn fynd ati i uwchlwytho a threfnu cynnwys CYmraeg i’r yd i gyd ei fwynhau.
Yn yr un modd, d wi’n meddwl bod dyletswydd ar y rhai ohonom sy’n darllen llyfrau Cymraeg i ymddwyn fel staff mwyaf cyfeillgar a cymwynasgar Waterstones drwy hyrwyddo a helpu darpar ddarllenwyr/prynnwyr o lyfrau/e-lyfrau Cymraeg ddod o i a gwybod am y gorau o lenyddiaeth Cymraeg. Dim ond drwy ddenu darllenwyr a chwsmeriaid newydd y gallwn sicrhau ffyniant. Gallwn wneud hyn drwy ysgrufennu adolygiadau ar-lein (unigolion) ac adeiladu gwefannau hawdd i’w cyrchu (cyhoeddwyr a Chyngor Llyfrau!).
roedd eitem ar y newyddion – meddyliau http://quixoticquisling.com/2011/05/technoleg-methiant-cyfryngau-prif-ffrwd/