Yn dilyn ar thema tebyg i’r cofnod diwetha am WalesHome yn cyhoeddi erthyglau Cymraeg yn ogystal a Saesneg, dyma fi’n darllen cofnod blog o Gatalonia gan MarcG am reoli defnydd iaith mewn rhwydweithiau cymdeithasol gan y llywodraeth (mae cyfieithiad es>en yn fwy darllenadwy na ca>cy). Ynddo mae’n sôn am ddogfen canllaw gan Lywodraeth Catalonia er mwyn cysoni’r defnydd o gyfrifon gwasanaethau rhwydweithiau cymdeithasol y sefydliad. Dyma’r blyrb swyddogol (yn Saesneg, gan bod y sefydliad yn gweithredu’n dairieithog):
The Government of Catalonia has prepared the Handbook of writing and style of the Virtual Procedures Office (VPO) and the Style and usage guide of the Government of Catalonia’s social networks. The handbook explains to the responsibles of VPO the guidelines for the correct way of communicating whereas the guide is published with the intention of providing some common guidelines to enable the Government of Catalonia’s departments, services and brands to present themselves in a coherent, standardised manner.
Bron i flwyddyn yn ôl, cyhoeddwyd dogfen o’r enw Goblygiadau gwe2.0 ar gyfer gwefannau dwyieithog – tuag at arfer gorau, gan Daniel Cunliffe. Soniodd Daniel amdano ar ei flog, af fe flogiodd Rhodri ap Dyfrig amdano ar Metastwnsh. Pwrpas y ddofgen oedd codi cwestiynnau yn hytrach na chynnig canllawiau.
Yn ei gofnod blog, mae MarcG yn cymharu sut mae tri sefydliad cyhoeddus yng Nghatalonia a Gwald y Basg yn trin ieithoeddedd ar wahanol wasnaethau Gwe2.0. Y tri oedd Llywodraeth Catalonia, Amgueddfa Picasso a gwefan Irekia (gwefan tebyg i Your Freedom ar gyfer Llywodraeth Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (Euskadi) – jyst ddim mor ffaeledig!).
Beth sy’n ddiddorol yw, tra bod bron pob sefydliad yn Nghymru (sy’n cymryd eu polisi iaith o ddifri) wedi mynd am yr opsiwn o greu cyfrifon cwbl ar wahan ar gyfer Cymraeg a Saesneg, mae’r tri yn astudiaeth MarcG yn cadw un cyfrif yn unig ac yn ei ddefnyddio ar gyfer tair iaith. Tydy hynny ddim yn golygu bod y dair iaith yn cael eu trin yr un fath – mae Llywodraeth Catalonia yn tueddu cyhoeddi mewn Catalaneg yn bennaf gan mai dyna yw ‘prif iaith’, mae Amgueddfa Picassa yn tueddu i ddefnddio Saesneg yn bennaf gan bod 70% o’r ymwelwyr yn dod o du allan i Sbaen, gan ddefnyddio’r ddwy iaith arall yn dibynnu os yw’r pwnc yn berthnasol i Sbaen gyfan neu i Gatalonia’n benodol. Yn ôl Llywodgraeth Euskadi, cadwir yr ieithoedd gyda’i gilydd er mwyn (cyfieithiad Google):
The idea of having multiple profiles (in Facebook and Twitter ) on each language was rejected by “coexistence and normalization”, ie separating not only divided the followers causes and complicates the management but also as pointing from us Euskadi, not promoted the normalization and coexistence of the two co-official languages.
Beth ydach chi’n feddwl o’r syniad o gymysgu ieithoedd fel hyn? Rhaid i fi ddweud mod i’n blino o weld yr un peth yn cael ei ddweud ddwywaith gan gyfrifon Twitter sy’n postio’n gyfan gwbl ddwyieithog. Ydy cael cyfrifon ar wahan ar sail iaith yn golygu nad yw yr iaith lleiafrifol yn cael ei ‘phrif-ffrydio’?
Well gen i gadw pethau ar wahan ar wefannau a Twitter. Dwi ddim yn defnyddio Facebook digon i wybod ond dwi’n amau fod e’n well ar wahan fan yna hefyd. Mae cymysgu iaith ar yr un dudalen yn gwneud hi’n anoddach i chwilotwyr fel Google allu hidlo tudalennau heblaw fod y testun wedi ei farcio gyda cod iaith (sydd ddim yn bosib ar lawer o wefannau rhwydweithio, ond yn bosib iawn mewn CMSes perchnogol).
Dwi’n gwybod fod dadl fod dangos y Gymraeg yn helpu codi ymwybyddiaeth a normaleiddio yr iaith ond fe ddylai gwasanaethau Cymraeg fod ar gyfer y Cymry Cymraeg yn bennaf nid i addysgu’r di-Gymraeg! Er fod y cwynion ystrydebol o ‘arwyddion dwyieithog’ yn drysu pobl – dwi’n meddwl fod y rhan fwyaf o bobl sy’n byw yng Nghymru yn dysgu hidlo allan testun Cymraeg yn reit rhwydd. Mae e’n anweledig iddyn nhw hyd yn oed pan mae mewn golwg plaen.
Dwi ddim yn gwybod y sefyllfa mewn gwledydd amlieithog eraill ond mae rhyw ddiwylliant yng Nghymru lle mae pobl yn penderfynu (neu’r penderfyniad yn cael ei wneud drostynt) fod y Gymraeg yn diflannu o’i bywyd ar rhyw oed arbennig a wnewch chi ddim eu denu nhw nôl drwy wthio’r iaith arnyn nhw ar bob cyfle. Mae e fyny i unigolion wneud y dewis o ddysgu neu ail-ddysgu’r iaith a dwi’n gweld fod angen gwneud hynny drwy brosiectau neu ddigwyddiadau diwylliannol. Fel arall dwi jyst yn meddwl fod pobl yn anwybyddu unrhyw destun Cymraeg o’i blaen yn gwbl ddiymwybod felly dyw cyfuno ieithoedd ddim yn cael effaith bositif. (ond barn yw hwn nid canfyddiad o ymchwil empiraidd).