Isdeitlau Ymhobman

Dwi newydd weld gwefan prosiect newydd gan y bobl tu ôl i chwaraewr fideo Miro, sy’n ceisio creu system agored ar gyfer isdeitlau ar fideos. Mae blog y prosiect wedi ei greu yn WordPress ac yn defnyddio’r ategyn ar gyfer creu cyfieithiadau o’r cynnwys drwy Google Translate.

Mae e hefyd yn defnyddio ategyn, sy’n newydd i fi, o’r enw Transposh (gwefan sy’n defnyddio baneri i ddynodi iaith yn anffodus!), sy’n galluogi unrhyw ddefnyddiwr i gyfieithu’r cynnwys ar flog. Mae Google Translate yn gwneud cynnig gweddol dda ar gyfieithiad y testun ond mae’r teclyn yma yn galluogi rhywun i wella’r a chywiro’r cyfieithiad yn weddol gyflym.

Felly dwi wedi cyfieithu’r cofnod cynta yn cyflwyno’r prosiect. Yn saesneg ‘Universal Subtitles’ yw’r enw ond dwi wedi dewis ‘Ymhobman’ yn hytrach na cyfieithiad uniongyrchol fel ‘Bydysawdol’ – unrhyw gynigion arall?

Cyflwyniad i Isdeitlau Ymhobman.

1 sylw

  1. Nai trio fe dros y penwythnos.

    Well na peiriant yn unig!

    Dw i’n caru Google Translate a dw i’n casau Google Translate weithiau…

Mae'r sylwadau wedi cau.