Tua phythefnos yn ôl, clywsom y newyddion trist iawn am farwolaeth Telsa Gwynne, ar ôl anhwylder hir. Roedd yn adnabyddus i nifer fawr ohonom o fewn Hacio’r Iaith: yn ffrind, ac yn gydymaith. Mae hi’n anodd iawn gwneud cyfiawnder â’r amryfal weithgareddau yr oedd Telsa’n ymwneud â hwy. Digon yw dweud eu bod hi’n un… Parhau i ddarllen Telsa Gwynne, 1969-2015
Firefox iOS yn Gymraeg
Os ydych yn ddefnyddiwr iPhone, iPad, iPod touch byddwch yn falch o ddeall fod Firefox iOS nawr ar gael o App Store Apple. Mae Firefox iOS yn caniatáu i chi gymryd eich hoff borwr gyda chi lle bynnag fyddwch yn mynd. Mae’n cynnwys nodweddion poblogaidd – chwilio clyfar a hyblyg, rheoli tabiau yn hawdd, cydweddu… Parhau i ddarllen Firefox iOS yn Gymraeg
App Pacca Alpaca – App Ieithoedd Rhyngwladol yn ychwanegu’r Gymraeg
Mae’r cynhyrchwyr apiau rhyngwladol o gefndir Arabeg, Anamil tech wedi ychwanegu’r Gymraeg i’w app dysgu ieithoedd sylfaenol, a hynny heb ariannu cyhoeddus, ond fel menter fasnachol. Mae cefndir app Pacca Alpaca yn hynod ddiddorol – cwmni o’r dwyrain canol sydd wedi creu app cefnogi mamiaith yn gyntaf, wnaeth esblygu’n app geirfa syml i rieni gyflwyno ieithoedd… Parhau i ddarllen App Pacca Alpaca – App Ieithoedd Rhyngwladol yn ychwanegu’r Gymraeg
Haclediad 45: Siarad Siarad, cofio hen ffrindiau a Duolingo
Yn rhifyn mis Tachwedd bydd Iestyn, Sioned a Bryn yn sgwrsio am ddiogelwch Talk Talk, yn codi gwydraid i gofio Telsa Gwynne ac yn clymu eu tafodau rownd Duolingo yn y Gymraeg. Hyn i gyd a llwyth o sangiadau a tangiadau off i lwyth o lefydd diddorol (a lot o drafod pa mor enwog di’r… Parhau i ddarllen Haclediad 45: Siarad Siarad, cofio hen ffrindiau a Duolingo
Mozilla – Deall yn well am y We
Mae Mozilla wedi cychwyn cyhoeddi cyfres cymorth i ddiogelu defnyddwyr ar y we o dan y teitl Deall yn Well, gan gychwyn gyda Tracio. Mae’r cynnwys yn amlygu beth yw tracio a sut mae cwmnïau ar y we, gan gynnwys trydydd partïon, yn gwneud defnydd o’r data rydym yn ei adael ar ein hôl. Mae’n… Parhau i ddarllen Mozilla – Deall yn well am y We
Firefox 42, yn cynnwys Pori Preifat a Diogelwch rhag Tracio
Mae Firefox 42, newydd ei ryddhau ac yn cynnwys nodwedd newydd o’r enw Pori Preifat gyda Diogelwch rhag Tracio. Hyd yma nid yw pori preifat wedi cadw defnyddwyr rhag cael eu tracio. Does gan y rhan fwyaf o ddefnyddwyr y we ddim syniad fod trydydd partion yn casglu, cadw a gwerthu gwybodaeth amdanyn nhw. Mae… Parhau i ddarllen Firefox 42, yn cynnwys Pori Preifat a Diogelwch rhag Tracio
Gwefannau newyddion Cymraeg – cyfle a syniad
Pwy a ŵyr bod ‘na gwefan o’r enw The Tab sy’n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr gan gynnwys rhai gwrth-Gymraeg? Dyma’r stori yn Golwg360 yr wythnos diwethaf Mae digon o rantio am ffolineb rhai o gyfrannwyr The Tab Cardiff ar Twitter. Nid dyna yw’r math o beth rydym yn wneud ar Hacio’r Iaith. Does dim… Parhau i ddarllen Gwefannau newyddion Cymraeg – cyfle a syniad
Thunderbird yn Gymraeg
Mae Thunderbird yn raglen amlbwrpas, cyfoethog sy’n delio gydag e-bost, negeseuon sgwrsio, gan gynnwys Twitter a Facebook, calendr a thasgau. Mae popeth yma ar gyfer prysurdeb bywyd! A wnaethoch chi erioed golli e-byst o gyfrif ar-lein erioed, wel mae Thunderbird yn cynnig modd i’w cadw’n ddiogel os fydd rhywbeth yn digwydd i’ch cyfrif neu ddarparwr… Parhau i ddarllen Thunderbird yn Gymraeg
Haclediad 44 – Premiere Tymor 3: Dychwelyd i’r byd a Bionic Bryn
Ydy, mae hi wedi bod yn rhy hir, mae’r Haclediad yma wedi hiatus hafaidd hir. Wedi damwain Bionic Bryn, mae’r criw nôl yn dod â’r diweddaraf o fyd tech i’ch clustiau, gyda’r gymysgedd arferol o fwydro a chabinet diodydd llawn. Tro ’ma bydd popeth o deganau sgleiniog newydd Apple i sinema 3D a cheir clyfar… Parhau i ddarllen Haclediad 44 – Premiere Tymor 3: Dychwelyd i’r byd a Bionic Bryn
WordPress Android 4.5
Mae’r ap WordPress ar gyfer Android wedi cael ei ddiweddaru i fersiwn 4.5 gyda mân welliannau: Gosodiadau Hysbysiadau Newydd sy’n caniatáu i chi newid hysbysiadau pob blog yn unigol. Hoffi (neu beidio) beth rydych yn ei weld? Gallwch nawr gyhoeddi neu ddychwelyd newidiadau lleol yn y sgrin Rhagolwg. Cefnogaeth i bentwr o hysbysiadau yn Android… Parhau i ddarllen WordPress Android 4.5