Haclediad #7 – Yr un sy’n Magnifico

Mae’n rhifyn rhyngweithio Cymraeg ar yr Haclediad y mis hwn gyda’r criw, Bryn, Iestyn a Sioned. Byddwn yn trafod pen-blwydd cyntaf Lleol.net, datblygiad ac adborth ar drawsnewidiad gwefan Golwg360 ac erthygl Bryn ar strategaeth (neu ddiffyg strategaeth) ddigidol S4C. ‘Does dim anwybyddu’r tech chwaith serch hynny, felly peidiwch poeni! Mae’r iPad2 wedi cyrraedd, ydi o werth y ciwio? Ac yna mae dyfodiad… Parhau i ddarllen Haclediad #7 – Yr un sy’n Magnifico

Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw!

Heia wrandawyr, dyma ni’n cyflwyno Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw! Diolch mawr i bawb ddaeth draw i’n gweld a lawrlwytho Haclediad #5 o ddigwyddiad Hacio’r Iaith, ac i’r holl griw technegol oedd yn rhan o’i chyhoeddi, da chi’n bril. Y tro hwn ar Haclediad #6 byddwn yn trafod mwy am… Parhau i ddarllen Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw!

Haclediad #5 — Yn fyw o Hacio’r Iaith 2011

O’r diwedd, mae Hacio’r Iaith 2011 wedi dod a mynd, a’r oll sydd ar ôl i chi yw’r haclediad byw! Wedi ei recordio cyn lansiad yr Umap Cymraeg gwych (cy.umap.eu), mae ‘na dal ddigon o drafodaeth yn y rhifyn byw arbennig hwn. Mae’r haclediad yn trafod ychydig o newyddion y dydd, a fe gafon ni… Parhau i ddarllen Haclediad #5 — Yn fyw o Hacio’r Iaith 2011

Haclediad #4 – yr un gyda’r gwestai arbennig!

Croeso i rifyn 4 o’r Haclediad, gyda’r criw arferol y tro hwn mae Mei Gwilym (@meigwilym), anturiaethwr cod a’n space cadet dof ni am y noson. Bydd Sioned (@llef), Bryn (@bryns), Iestyn (@iestynx) a Mei yn trafod Fforwm “cyfryngau newydd” (aw!) S4C, yn cymryd cipolwg ar gynnyrch y Consumer Electronics Show o Las Vegas a… Parhau i ddarllen Haclediad #4 – yr un gyda’r gwestai arbennig!

Haclediad Y Nadolig

Helo-ho-ho, dyma anrheg Nadolig bach cynnar i chi – Haclediad #3! Ar y rhifyn hwn bydd Iestyn Lloyd (@iestynx) Bryn Salisbury (@bryns) a Sioned Edwards (@llef) yn trafod y mis diwethaf ym myd tech, ac yn edrych mlaen i’r flwyddyn newydd. Ar y fwydlen mae trafodaeth o system weithredu newydd Apple iOS 4.2.1 a dyfodiad… Parhau i ddarllen Haclediad Y Nadolig

Croeso i’r Haclediad

“Henffych ddarpar wrandawyr! Hoffem ni, griw Hacio’r Iaith, gyflwyno podlediad newydd i’ch clustiau – wele, yr ‘Haclediad‘!” Reit, nol i’r unfed ganrif ar hugain, gobeithio byddwch chi yn mwynhau gwrando ar drafodaeth tech Gymraeg newydd sbon ar ein annwyl Haclediad. Bydd digon o bobl gwahanol yn cyfrannu o bryd i’w gilydd, ond yn y rhifyn hwn,… Parhau i ddarllen Croeso i’r Haclediad

Fideos byr o Hacio’r Iaith

Dwi wedi rhoi rhwyfaint o fideos o Flip Cam Rhodri ar sianel Youtube. Dwi ddim am embedio nhw i gyd yma a’ch sbamio chi eto, ond popiwch draw at fy nhudalen YouTube newydd sbon i gael golwg ar cwpl o gyfweliadau ac un fideo eithaf arbennig – Cyfrinach llwyddiant hacio’r Iaith

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol