Diolch o galon i holl fynychwyr a chyd-drefnwyr Hacio’r Iaith 2018 am ddigwyddiad arddechog ddoe!
Byddaf i’n cnoi cil dros eich cyflwyniadau a’r trafodaethau am y flwyddyn i ddod!
Pigion
Dyma ddetholiad o’r hyn a drafodwyd (sy’n anghyflawn dw i’n gwybod).
#haciaith Oni falch o cal bod yna i gynrychioli nid yn unig merched ym myd digidol Cymraeg ond hefyd mamau sydd ddim eisio stopio gweithio! Anything you can do, I can do breastfeeding!
— Llio Angharad (@clioangharad) January 27, 2018
Pob hwyl i gynhadledd @haciaith heddi. Y Gymraeg, a ni sy’n ei defyddio ar dechnoleg, yn elwa cymaint o ymroddiad ac arloesedd pobol #haciaith #diolch
— Elin Jones (@ElinCeredigion) January 27, 2018
Ewch draw i https://t.co/FLvDuLlcZj i gyfrannu at broses datblygu technoleg Adnabod Lleferydd @canolfanbedwyr #Macsen #haciaith pic.twitter.com/FwNBk3SN88
— Lois Gwenllian (@loisgwenllian) January 27, 2018
Mae @DuoLingo yn tri derbyn "atebion cywir" mewn llwyth o dafodieithodd Cymraeg. Felly defnuddiol i bobl sy wedi defnyddio lot o cyrsiau arall #haciaith
— Leia (@leiawelsh) January 27, 2018
Diddorol clywed am gynnwys saff i blant ar Youtube a'r llwyfannau eraill #haciaith pic.twitter.com/CE3DYkODGL
— Marged Rhys (@Marged_Rhys) January 27, 2018
Pob lwc Lan yn y Gogledd yn @PontioTweets #Bangor heno Crys, Mafia, @therealrhysmwyn. Dyma'r crys nes i wisgo yn #haciaith #Caerdydd heddiw pic.twitter.com/2m71U0sYlN
— Gareth Morlais (@melynmelyn) January 27, 2018
Galw am fwy o ferched i ymuno mewn yn y byd digidol!
> @leiawelsh #haciaith #haciaith2018 pic.twitter.com/0fCgWojJ6e
— ₲шэїгұδδ™ (@GweiryddIoan) January 27, 2018
Andrew Green yn gwthio i gael pob llyfr Cymraeg ar gael ar y we, debyg iawn i Norwy #haciaith
“Norway is digitizing all its books and making them free to read online” – The Verge https://t.co/tE81zuxjJa
— Iestyn Lloyd (@iestynx) January 27, 2018
'Beth os byddai popeth mae S4C wedi'i ddarlledu, o'r cychwyn, ar gael i bawb, o'u cartrefi, am ddim?' @gwallter #haciaith
— Rhys Jones (@DrRhys) January 27, 2018
Am gasgliad gwych o bobl dalentog, egniol! Diolch o galon am y cyfle i siarad y bore 'ma. #haciaith
— Andrew Green (@gwallter) January 27, 2018
@TomosGruffydd yn gwneud darn i gamera i @CardiffUnionTV yn @haciaith #haciaith #CMCC pic.twitter.com/CsLw714edQ
— Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (@cmccaerdydd) January 27, 2018
Mae Rhys Wynne wedi gwneud job ardderchog o grynhoi rhai o’r sesiynau.
Mae hefyd llwytho o bethau Twitter ar yr hashnod #haciaith.
Cadwch y ddydiad: Celtic Knot 2018
I’r rhai sydd eisoes yn meddwl am y digwyddiad tech ieithyddol nesaf mae Jason Evans ac eraill yn trefnu cynhadledd Celtic Knot, Aberystwyth, 5-6 Gorffennaf 2018 sydd yn debygol o denu pobl o sawl cefndir ieithyddol yn Ewrop (nid dim ond pobl ‘Celtaidd’). Fe fydd rhagor o fanylion nes ymlaen. Yn y cyfamser ewch i wefan Celtic Knot sydd yn cynnwys galw am bapurau academaidd newydd.