Sesiwn 1 – Dysgu Cymraeg ar Duolingo
Richard Morse, tiwtor Cymraeg i Oedolion, yn adrodd hanes ‘ymgyrchu’ i ychwanegu cwrs Cymraeg ar y llwyfan.
Ceisio cefnogaeth, gan gynnwys llythyr at y Prif Weinidog.
Memrise (gwasanaeth tebyg) ond yn derbyn un cyfieithiad ar gyfer pob brawddeg – Duolingo’n derbyn mwy. Hyd at 50 gwahanol ffordd o lunio un brawddeg wrth ystyried pob tafodiaith!
CBAC wedi gadael iddynt ddefnyddio cynnwys y gwerslyfrau.
Angen ystyried ffurfiau Saesneg – gwahaniaeth rhwng DG ac UDA (yn UDA, ‘to clean’ = tacluso)
Leia, yn trafod 2 ap:
Amikumu, sy’n eich helpu i ddod o hyd i bobl gerllaw er mwyn siarad unrhyw un o 7500+ o ieithoedd y byd.
SaySomethingInWelsh – cwrs MP3. Mwy o hyder gan bobl sy’n dysgu drwy SSIW gan fod ganddynt eirfa ehangach ar gam cynharach.
Piti nad oedd taflunydd ar gael i’r sesiwn, baswn i wedi dod â fy nhaflunydd fy hun taswn i wedi cael gwybod ymlaen llaw. Collodd y cyflwyniad llawer o’i effeitholrwydd oherwydd hyn. Ta waeth diolch am y cyfle i rannu peth o’r stori creu y cwrs Cymraeg ar Duolingo.
Baswn i’n hapus i rannu’r sleidiau tasai diddordeb.