Hacio’r Iaith 2013 – beth sy’n digwydd? (Diweddariad byw)

Newyddion diweddaraf: 8am dydd Sadwrn

[blackbirdpie url=”https://twitter.com/Nwdls/status/292554001692643328″]

[blackbirdpie url=”https://twitter.com/Nwdls/status/292553404943851520″]

Byddwn ni dal yn mynd yn ein blaenau heddiw ond mae na dipyn o rew felly peidiwch teimlo bod rhaid dod. Well bod chi’n cadw’n saff.

Newyddion diweddaraf: 12pm dydd Gwener

Ar ôl trafod fan hyn ac edrych ar y tywydd a’r traffig, y cyngor i bawb sydd wedi cofrestru ydi i beidio teithio i Aberystwyth heddiw. Mae’r ffyrdd yn glir yn y rhan fwyaf o lefydd ond yr A470 yn y de, ond dydi Hacio’r Iaith ddim yn cyfri fel taith angenrheidiol!

Mi fyddwn fodd bynnag, yn parhau gyda Hacio’r Iaith yfory yn y Llyfrgell Gen ond ar raddfa chydig llai, gan bod sawl un wedi canslo eisoes. Mae nifer wedi gwneud y daith yma’n barod a sawl un o ardal Aberystwyth sydd am ddod felly bydd yna ddigon i wneud diwrnod difyr.

Mae eraill wedi dweud eu bod am aros i weld sut mae’r tywydd ar y ffyrdd yn y bore cyn gwneud penderfyniad sydd yn swnio’n gyngor call i ni. Y peth olaf ydyn ni eisiau ydi bod pobol yn cymryd taith beryglus. Byddwn yn trydar ac yn blogio’r cyngor teithio diweddaraf yn y bore, ac os ydych chi yn dod bore fory, peidiwch poeni os ydach chi’n cyraedd hwyrach na’r amser cychwyn.

Os nad ydych yn gallu dod, gadwch i ni wybod, a pheidiwch poeni achos dwi’n siwr wnawn ni ffeindio ffyrdd technolegol i gynnwys a chreu sesiynau arlein lle gall pawb barhau i gyfrannu.

I ni sydd yma, mi fydd lot o frechdanau i fyta, felly byddwn ni’n storio braster ar gyfer para trwy’r oerfel ma!

Hwyl am y tro

Rhodri, Carl a chriw Hacio’r Iaith

  • * * * * * * * * * * *

Helo bobl

Er gwybodaeth, mae Hacio’r Iaith dal ymlaen yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar ddydd Sadwrn.

Mae ambell i berson wedi gofyn am y tywydd, felly dyma pam rydyn ni’n postio.

Os ydych chi wedi cofrestru, gadwch wybod os ydych chi ddim am ddod am unrhyw reswm.

(Gyda llaw mae’r digwyddiad Hacathon dal yn mynd ymlaen yn Aberystwyth dydd Gwener hefyd.)

Byddwn yn diweddaru’r cofnod blog hwn os oes unrhyw newid i drefniadau Hacathon neu Hacio’r Iaith.

Cyngor pwysig: plîs gyrrwch yn ofalus.

x

13 sylw

  1. Hia hacwyr – bydd teulu Mills methu dod fyny oherwydd @minillef, methu meddwl am fynd yn sownd efo babi! Byddai modd setio fyny Google hangout enfawr tybed? Methu coelio byddwn ni’n colli allan, Mr @Bryns yn yr un sefyllfa yn anffodus. Diolch eto am yr holl waith trefnu

    @llef

  2. Hi Carl a pawb arall,

    Dwi’m yn gweld ni gallu dod yn anffodus, oherwydd y tywydd, ond sicr o ddilyn pethau drwy’r sianelau arferol yn ystod y dydd.

    hwyl

    Aelwyn

  3. Yn aros i wedl beth sy’n digwydd gyda’r eira – os ddoddiff hi heno byddai yno fory. Os mae’n parhau i gwympo’n drwm acyn thewi dwi’n amau byddai’n gallu cyrraedd mewn pryd/o gwbl o Gaerdydd. Byddai arlein adre beth bynnag – gwhile@gmail.com

  4. Helo,
    Newydd orfod canslo’r bws mini oedd i fod i ddod a ni lawr i Hacio’r Iaith fory oherwydd yr eira :(. Fodd bynnag, os bydd y tywydd yn caniatau yn y bore, bydd llond car ohonom ni yn dal i ddod – 4 neu 5 yn lle’r 8 oeddem ni’n gobeithio amdano. Flwyddyn nesa, allwn ni gael Hacio’r Iaith yn Hawaii yn lle Aber plis :).

  5. Diolch bawb am y negeseuon. Mae’r tywydd yn argymell i bobol beidio teithio heddiw os nad yw’n angenrheidiol, felly peidiwch gwneud os ydach chi’n poeni. Dilynwch gyngor y bobol proffesiynol a chadwch lygad ar be ma’r tywydd yn ei ddweud. Dydi hacio’r iaith ddim werth rhewi’n gorn / crasho car ar rhyw lôn gefn drosto!

    Byddwn ni’n rhoi diweddariad am hanner dydd am ein cynlluniau a chyngor i bobol sydd dal heb ganslo. Mae sawl un wedi dweuyd yn barod na fyddan nhw’n gallu dod, ond gan na fydd Aberystwyth yn cael ei daro’n wael mae’n bosib y byddwn yn cynnal rhywbeth beth bynnag. Nawn ni roi cyngor call am hanner dydd ar ôl trafod ac edrych eto at y rhagolygon.

    Yn y cyfamser, os ydach chi’n penderfynu peidio teithio gadwch i ni wybod cyn gynted ag y gallwch chi.

    Yr eiddoch yn sgarffiog,

    Rhodri

  6. Hia,

    Dwi methu gael allan. (Byw lawr trac ffarm serth).

    Felly fydda’i methu dod yn anffodus.

    Siom enfawr

    H

  7. Dwi’n mynd i drio ‘ngorau i ddod er gwaetha’r tywydd (ond bydda i’n cymryd pob gofal posib wrth gwrs). Peth yw, ar ôl y mis dwi newydd gael, dwi angen hyn yn seicolegol am fwy o resymau na jest trafodaeth tech! 🙂 Os gaiff yr holl beth ei ganslo (croesi bysedd) gadewch i ni wybod, ond fel arall dwi’n bwriadu setio ffwrdd tua 3pm.

  8. Helo griw Hacio’r Iaith, dim ond neges i ymddiheuro na fydda i’n gallu dod i fyny fory.
    Diolch
    Leusa

  9. O hyd yn bwrw eira’n eitha trwm yma yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin. Hefyd mae rhannau o’r A487 o amgylch Synod Inn ar gau, ac mae’r A482 o amgylch Llanbed yn edrych braidd yn wael. Arhosa i i weld sut mae cyflwr yr heolydd bore yfory…

  10. Fydda i ddim yn mentro draw heddiw yn anffodus. Gobeithio y bydd yn ddiwrnod llwyddiannus.

Mae'r sylwadau wedi cau.