Blwyddyn newydd dda. Bob 1af o fis Ionawr ar Hacio’r Iaith rydyn ni’n dathlu’r awduron sydd wedi dod i’r parth cyhoeddus. Heddiw, yn ôl cyfraith hawlfraint, mae gweithiau testun gan awduron sydd wedi marw yn 1942 yn dod yn hollol rydd. Mae modd ailddefnyddio ac ailgyhoeddi nhw heb gyfyngiadau bellach.
Mae rhestr ar Y Bywgraffiadur Ar-lein. Dw i ddim yn cyfarwydd gyda’r enwau, efallai byddai rhywun arall yn gallu argymell pethau da gan yr awduron isod?
- EVANS, JOHN JOHN ( 1862 – 1942 ), newyddiadurwr, etc.
- GREEN, FRANCIS ( 1854 – 1942 ), hynafiaethydd
- GRIFFITH-JONES, EBENEZER ( 1860 – 1942 ), gweinidog Annibynnol a phrifathro
- HUGHES, THOMAS ISFRYN ( 1865 – 1942 ), gweinidog Wesleaidd
- JAMES, FRANK TREHARNE ( 1861 – 1942 ), cyfreithiwr, beirniad celfyddydol
- JONES, ELIAS HENRY ( 1883 – 1942 ), gweinyddwr ac awdur
- JONES, JOHN DANIEL ( 1865 – 1942 ), gweinidog gyda’r Annibynwyr
- JOYCE, GILBERT CUNNINGHAM ( 1866 – 1942 ), esgob
- LEWIS, EDWARD ARTHUR ( 1880 – 1942 ), hanesydd
- MORGAN, ALFRED PHILLIPS ( 1857 – 1942 ), cerddor
- PRICE, JOHN ARTHUR ( 1861 – 1942 ), bargyfreithiwr a newyddiadurwr
- SANDBROOK, JOHN ARTHUR ( 1876 – 1942 ), newyddiadurwr
- WALTERS, DAVID ( EUROF ) ( 1874 – 1942 ), gweinidog (A) a llenor
(Yn anffodus mae rhai o’r dolenni wedi torri felly dw i wedi eu tynnu, efallai mae problem gyda chronfa data Y Bywgraffiadur?)
Mae rhestrau eraill ar Wicipedia Cymraeg a Wikipedia Saesneg.
Gweler hefyd: mwy am y parth cyhoeddus Cymraeg
Mae The Road to Endor gan E. H Jones yn llyfr gwych yn son am hanes yr awdur yn ffoi o gamp POW yn Nhwrci adeg y Rhyfel Mawr trwy gogio bod yn ŵr cyfrin
Diddorol ac mae Neil Gaiman a Penn Jillette yn creu ffilm. Fydd ddim angen iddyn nhw talu am y stori nawr!