mewn stori Gomer ar Golwg360:
[…] Eisoes, mae cwmni cyhoeddi Y Lolfa wedi dweud eu bod yn “edrych ymlaen” at ehangu nifer yr e-lyfrau fydd ar gael ar gyfer Kindle yn ystod y misoedd nesaf.
Fe wnaeth Y Lolfa werthu bron i 100 o e-lyfrau dros y Nadolig, meddai Garmon Gruffudd wrth Golwg360. Roedd gan y Lolfa naw o e-lyfrau ar werth dros y Nadolig.
Mae’r cyhoeddwyr yn gobeithio “ychwanegu tua dwsin arall yn ystod y misoedd nesaf.”
cer i http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/62367-gomer-i-ddechrau-cyhoeddi-e-lyfrau-yn-2012 am fwy
Dau gwestiwn:
1. Beth yn union yw ‘dros y Nadolig’, un wythnos?
2. Pa wasanaethau? Rydyn ni’n gallu cymryd bod Amazon yn rhan o’r ffigur ond beth am siop e-lyfrau Y Lolfa a siopau eraill?