Haclediad #16 Yr Un Sâl!

Croeso i Haclediad #16: Yr Un Sâl! Ar ddechrau 2012 byddwn ni yn trio ymladd y ffliw ac yn dod â thameidiau blasus y flwyddyn a fu a’r flwyddyn i ddod i’ch clustiau! Byddwn yn trafod y tech gorau o 2011, ac yn darogan pa ddyfeisiau neu gwmnïau bydd yn ffarwelio â ni yn 2012. Byddwn hefyd yn dechrau ar ymgyrch gwrth-#halfarsedWales yn y gobaith o weld dylunio gwych o Gymru. Ac wrth gwrs, byddwn yn edrych mlaen yn arw am Hacio’r Iaith 2012 ar y 27ain a’r 28ain o Ionawr, welwn ni chi yno!

Dolenni

1 sylw

  1. Ella bod y criw yn sâl ond ma’r drafodaeth yn wych, fel arfer. Ma na drafodaeth bwysig yma am be di’n disgwyliadau ni ar gyfer safon deunydd Cymraeg ac ydan ni’n ddigon gonest am bethau Cymraeg sydd ddim yn ddigon da.

    O ran ap Golwg, dwi heb ei lawrlwytho achos da ni’n talu am y cylchgrawn print bob wythnos a fasa’n rhaid talu’r un pris eto am yr un peth ar yr ap. Dwi hefyd methu diodda darllen cylchgronnau arlein lle ma raid zoomio mewn ac allan i pdf, a throi tudalen. Urgh. Dwisio hyperlinks!

    Yr unig adeg efallai y gallwn i ragweld ei ddefnyddio ydi i ddarllen un rhifyn mewn argyfwng os di pob siop bapur newydd yn cau yn Aberystwyth! Ma’n biti nad ydyn nhw wedi trio fformatio’r cylchgrawn ar ffurf Flipboard-aidd. Rhaid cyfaddef, mod i jest isio Golwg360 mewn fformat symudol gwell neu ar ffurf app.

    [Cynlluniau ar y gweill am ailgynllunio Ap Cyw! Woo! Iei!]

Mae'r sylwadau wedi cau.