Mae Hacio’r Iaith 2018 newydd ddechrau!
Diolch o galon Andrew Green am gyflwyniad hynod ddiddorol bore yma am ei hanes mewn llyfrgelloedd, yn enwedig ei sôn am brosiect Norwyaidd i ddigido holl lyfrau Norwyeg, a’r syniad cyffrous iawn o ganfod ffordd o roi pob llyfr Cymraeg ar y we.
Mae hyn yn sicr yn rywbeth hoffwn i weld, fel ffordd o wella llythrennedd a sicrhau bod mynediad i lyfrau Cymraeg ymhlith holl bobl Cymru gan gynnwys pobl o gefndiroedd difreintiedig.
Hoffwn i drefnu sgwrs ymarferol am hyn yn Hacio’r Iaith brynhawn yma.
Syniad gwych!
Rydw i’n cofio sôn tua’r flwyddyn 2000 am brosiect i ddigideiddio’r Llyfrgell Brydeinig i gyd. Byddai wedi costio biliynau o bunnoedd – ond yn llai na’r Mileniwm Dome, ac yn llawer mwy defnyddiol.
Cwestiynau am hawlfraint ayyb, ond rydyn ni wedi gweld effaith digideiddio papurau newyddion a chylchgronau. Gawn ni arian i ymestyn y papurau newyddion o 1919 i’r presennol?