Erthygl diddorol iawn am sut mae mapio anghyson yn gallu cyfrannu at anghyfartaledd:
[…] This old idea of paper maps as power brokers offers a good analogy for how we might think today about the increasingly complex maps of digital information on the physical world that exist in the “geoweb.” This is where Wikipedia pages and online restaurant reviews and geocoded tweets live, all theoretically floating atop the actual cities and neighborhoods they describe.
“In many ways, it’s not even an analogy,” says Mark Graham, a researcher at the Oxford Internet Institute. “We actually are talking about maps of some sort, in a way. Just because they’re maybe more ephemeral, or maybe more invisibly layered over our cities, it doesn’t mean they’re any less important or any less real.”
On these maps of digital information, a familiar trend is emerging. Some places are covered much more densely with information than others (Manhattan compared to upstate New York, Europe compared to Africa). But that information density bears no direct relationship to the density of human populations. And the gap between these two metrics provides a new way of looking at old questions of inequality. […]
Mae sôn yn yr erthygl am sut mae ieithoedd yn ffiltro’r byd a dylanwadu ein hargraff o lefydd. Mae enghraifft o eiriau gwahanol am ‘bwyty’ yn Tel Aviv. (Gyda llaw mae dim ond 119 canlyniad ar Google Maps am y term ‘bwyty’ a lot mwy am y gair ‘restaurant’.)
Mae gymaint o fapiau eraill: erthyglau Wicipedia, trydariadau Cymraeg gyda lleoliad, blogiau mewn llefydd gwahanol…
Dw i’n dal i feddwl am sut mae’r casgliadau yn yr erthygl yn berthnasol i ni. Dwedodd rhywun ‘tasai’r Gymraeg yn wlad ar-lein byddai hi’n wlad trydydd byd’. Byddai mwy o ddata yn ddefnyddiol i brofi’r datganiad hwn.
Tydy’r ddolen ddim yn gweithio i mi, dyma hi eto
http://www.theatlanticcities.com/technology/2013/02/how-internet-reinforces-inequality-real-world/4602/
Testun difyr. Byddai cymharu sgrinlun o ganlyniadau chwilio am ‘bwyty’ a ‘restaurant’ ar GoogleMap dros dre Caernarfon neu Aber yn ddiddorol fel mae’r erthygl yn ei wneud am Tel Aviv yn Hebraeg, Saesneg ac Arabeg.
Mae lle yma i sefydliadau (Llywodraeth Cymru a Llundauin, awdurdoau lleol, S4C ayyb) gyfrannu at isadeiladedd gwerthfawr. Byddai map Cymraeg o ddefnydd i S4C ar gyfer eu gwefan tywydd, gallai mapiau Cymraeg cywir fod o ddefnydd i awdurdod lleol/gwasanaethau brys wrth ymateb i argyfwng pan bod rhywun yn cyfeirio at enw Cymraeg lleol tra mae eu staff falle ond yn adnabod enwau diweddar wedi eu Seisnigeidido o hen chwareli, bryniau ayyb.
Mae hefyd lle i’r unigolion wneud hyn drwy adolygiadau (adolygiad.com drwy Twitter, adolygu’n Gymraeg ar Google, sicrhau cynnwys/fersiwn Cymraeg o Wikivoyage*, rhoi enwau Cymraeg ar Open Street Map.
O ran mapiau Wicipedia (neu Comin Wikimedia), mae cyfle yma i lawer o gydweithio i Gymreigio mapiau (gyda dim ond mymryn bach o ddealltwriaeth o Photoshop/Gimp). Byddai’r rhain yn adnodd defnyddiol ar gyfer dosbarthiadau Daearyddiaeth cyfrwng Cymraeg ac adnoddau atodol Cymraeg i Oedolion, felly falle dylai’r rhanddeiliad perthnasol gyfrannu rhywffordd?
*Mae Wikivoyage yn brosiect newydd gan Wikimedia, y pobl tu cefn i Wicipedia. Mae fersiwn Cymraeg arfaetheg yn yr incubator ar hyn o bryd. Dyma’r unig gynnws Cymraeg hyd yma.
Dw i wedi trwsio’r dolen – diolch.
Un pwynt diddorol o’r erthygl ydy’r ffaith bod amrywiaeth o fapiau yn bodoli tu hwnt i fapiau gweledol… Mae unrhyw gofod cynnwys gyda chyfeiriadau i lefydd yn cyfrif fel map fel y sôn am data ‘uwchben’ dinasoedd/llefydd.
Diddorol iawn! Diolch am bostio.
Dwi’n sôn am rhywbeth tebyg ar fy mlog am y Gymraeg ar Foursquare. Ma’n boenus bod na ddim mapiau gyda enwau llefydd Cymraeg safonol. Mae’r pwynt fwya poenus o glir ar http://blemaergymraeg.crowdmap.com sydd efo tri opsiwn o fapiau i’w defnyddio a’r un yn gallu dangos enwau Cymraeg yn iawn.
Dyla na fod rhyw fath o fap gan Google neu Microsoft sydd yn iawn – dyla hynny fod yn flaenoriaeth ar gyfer pwysau Llywdoraeth a dweud y gwir, ond mae’r raddfa sydd angen i brosiectau gwe2.0 cydweithredol o gynhyrchu deunydd weithio’n golygu bod methiant yn digwydd yn llawer haws i ieithoedd llai.
Mae Francois Grin wedi defnyddio’r term economeg “market failure” (papur: Economic Considerations in Language Policy (dogfen Word)) yn sôn am y pwynt yma lle nad yw ieithoedd lleiafrifol yn gallu gweithredu yn y farchnad rydd ac lle mae’n iawn i Lywodraeth weithredu er mwyn cau’r bwlch. Mae mecanweithiau cyd-gynhyrchu gwe2.0 yn gwneud i’r market failure hyn ddigwydd yn llawer cynt nag oedd cyn y we, oherwydd mae na bias mwy fyth tuag at ieithoedd mwyafrifol. Mae natur datganoledig, dosbarthiedig, ac anferthedd ‘y farchnad’ ar y we hefyd yn gwneud hi’n llawer anoddach ymateb i’r methiant marchnad gyda rhyw fath o ymyrraeth. Alli di ddim gofyn i’r Llywodraeth ymyrryd yn Foursquare? (Neu alli di? Pryd ma’n gwasanaeth yn dod yn utility cyhoeddus?).
Oedd y dyfyniad trydydd byd na’n fwriadol bryfoclyd gen i, ond dwi’n dal i hawlio bod twf defnydd y Gymraeg arlein wedi ei atal oherwydd pob math o ffactorau – rhai’n bethau allwn ni wneud rhywbeth, mwy allan o’n rheolaeth ni. Mae’r gwaith diweddar ar hanes y we Gymraeg ond wedi cadarnhau hyn i fi. Mae gen ti’r Gymraeg sefydliadol arlein, a’r Gymraeg grassroots arlein, amrwd braidd, a bron dim yn y canol.
Does dim continuum o’r Gymraeg arlein achos mae bron yn amhosib i dyfu unrhywbeth sylweddol o’r grassroots, er i nifer fawr o brosiecttau teilwng iawn drio.
Nesh i godi’r pwynt am enwau dwyieithog / Cymraeg gyda chymuned cefnogaeth Foursquare a chael diddordeb cychwynnol ond wrth gwrs ddaeth dim byd ohoni. Mae dal yn hollol aneglur beth yw’r broses o osod/newid/fflagio enwau a’r cyfrifoldeb sydd arnyn nhw i ddeall cymunedau dwy, tair, pedair ieithog. Yn y bôn does dim ots, oherwydd mae scale yn golygu eu bod nhw’n hapus i weld lleiafrif yn anhapus os nad ydi o’n effeithio ar fusnes y mwyafrif. Efallai nad yw Foursquare yn bwysig, ond mae croniant yr holl wasanaethau o’r fath yn sylweddol erbyn y diwedd ac yn cael effaith seicolegol.
Roedd ymgyrch arwyddion CYIG yn y 70au ar gyfer sicrhau statws i’r iaith yn yr amgylchedd weledol o’n cwmpas ac yn ein sefydliadau; mae’r amgylchedd weledol rwan yn llawer mwy na’r arwyddion metel, mae’r arwyddion bits yr un mor bwysig.
Ond mae dwyn arwydd metel yn llawer haws na dwyn bits. Efallai ei fod yn metaffor sy’n addas ar gyfer brwydr yr iaith yn gyffredinol?
Diolch am hwn, llawer I feddwl amdano.
Un sylw pellach, chydig oddiar y pwnc! Dyma chydig o berspectif ar be mae gwledydd datblygol / trydydd byd go iawn yn gorfod delio gyda fo a’r cwestiynau o anghyfartaledd sy’n codi iddyn nhw gyda defnydd y rhyngrwyd: http://www.ethanzuckerman.com/blog/2013/02/12/who-let-all-those-ghanaians-on-the-internet-jenna-burrell-on-internet-exclusion/
Dyw’r rhyngrwyd ddim yn rhydd, nac yn agored, i lawer iawn o bobol. Dyna pam sgen i ddim llawer o gydymdeimlad weithiau efo ymgyrchwyr i gadw ‘rhyddid’ y we. Ydi o’m yn fater o un diffyg rhyddid yn cymryd lle un arall?
Wedi darllen drwy’r erthygl yn llawn rwan ac wedi gadael sylw:
Da chi’n cytuno?