Mae system weithredu Debian GNU/Linux yn ddosbarthiad poblogaidd o Linux sy’n sail i nifer o ddosbarthiadau eraill yn cynnwys gwahanol flasau o Ubuntu ac eraill (rhestr llawn yma).
Ar hyn o bryd, mae fersiwn newydd Debian 7.0 (wheezy) yn cael ei gwblhau a’u brofi. Mae sefydlydd y system ar gael mewn nifer o ieithoedd yn cynnwys Cymraeg. Y tro yma, roedd y fersiwn Gymraeg am ddiflannu oherwydd nad oedd wedi ei ddiweddaru ers rhai blynyddoedd.
Felly fe es i ati i gwblhau’r cyfieithiad gan fod y meddalwedd yn cael ei ‘rewi’ ddiwedd mis Mehefin. Fe ddylai’r gwaith yma fwydo mewn i Ubuntu yn y dyfodol.
Erbyn hyn mae fersiwn beta o sefydlydd Debian ar gael. Os ydych am brofi’r sefydlydd newydd a’r cyfieithiad Cymraeg, fe allwch gael copi o’r sefydlydd fan hyn (ffeil ISO). Mae’n bosib defnyddio VirtualBox neu rhywbeth tebyg i osod system newydd mewn peiriant rhithwir. Mi fase’n ddefnyddiol cael adborth am unrhyw wallau amlwg.
Gwych iawn. Diolch yn fawr am dy waith Dafydd. Oes deadline am adborth?
Mae Debian yn enwog am beidio ryddhau tan fod nhw’n trwsio pob nam ond dwi’n meddwl fod rhyw fwriad i ryddhau erbyn Chwefror 2013 yn dilyn y patrwm blaenorol.
Felly dwi’n meddwl fydd cwpl o fisoedd eto ar gael i newid pethau cyn “rhewi’r” llinynnau.
Wnes i anghofio ddweud fod y cyfieithiad yma yn adeiladu ar waith Dafydd Harries ac eraill o 2004 ymlaen.
Dafydd,
Diolch o galon am helpu – we’n temilo fel ‘mod i’n hala hanner ‘mywyd i yn disgwyl am ffyrdd i wneud systemau i weithio’n y Gymraeg.
Un peth – wy’n disgwyl ar fersiwn 0.9 o /usr/share/i18n/locales/cy_GB – ai dyna dy fersiwn mwya diweddar? Dydw i ddim cweit yn sicr am gyfieithedau y diwrnodau – e.e.
setlocale(LC_ALL,”cy_GB”);
echo strftime(“%A”);
> Gwener
On yn y Saesneg, cei “Friday” yn ol. Dyle’r ateb yn Gymraeg fod “Dydd Gwener”?
Diolch,
Aled.
Diolch Aled. Oes mae yn wall yn y dyddiau. Dwi wedi bod yn ceisio diweddaru hwn gyda’r ffynhonnell i’r locales (glibc). Yn anffodus mae’r person oedd yn cynnal y ffeil yn wreiddiol ddim mewn cysylltiad a mae’n rhaid i mi brofi fod gen i hawliau i ddiweddaru’r ffeil! Wnai ddal ati.