Help! Cymreigio Mac yn achosi cyfrif denfyddiwr i corruptio!

Nath ffrind i fi ebostio ddoe yn holi os oedd gen i syniad am y broblem hon:

Nath Dad brynu MacBook Air yn ddiweddar a ma fen rhedeg OS10.7.4 ac yn defnyddio Microsoft Office 2011 fersiwn Mac arno fe, ddoe mi wnaeth ofyn i fi os oedd yn bosib cael tô bach i ymddangos a felly ar ol minud neu ddau ar Google ffindies i erthygl ar y BBC yn gweid am newyd y iaith, felly es i mewn i preferences ieithoedd a adio cymraeg i’r input languages, gret.

Bore ma gethon ni alwad ffon gan fod en methu agor dogfenau yn Word. Dwi wedi gwario rhan fwyaf or dydd yn sharad a dyn neis iawn yn y Philippines sydd wedi dod i’r casgliad for da fe Corrupted User Account a felly bu rhaid creu User Account newydd a carioi bethe i gyd mewn i fana. Ok ond pan ni’n newyd y iaith i’r gymraeg mar un peth yn digwydd eto, a dyw e ddim yn cael ei ddad neud pan ni’n troi’r gymraeg bant???

Unrhyw syniade?

Dwi erioed wedi clywed am hyn o’r blaen. Oes unrhyw un allan na wedi cael hyn ac wedi ei ddatrys? Neu oes na workaround?

6 sylw

  1. Wedi methu ffeindio’r erthygl yna ar wefan y BBC – oes URL? (Er mwyn gwybod beth yn union mae di newid).

    Be’n union ydi’r broblem? (“methu agor dogfenau yn Word” ddim yn egluro lot!) Oes rhywbeth yn crashio neu rhewi? Ydi Word neu OS X yn rhoi neges? Ydi’r ffeili ddim yn ymddangos yn gywir? Be sy’n digwydd wrth ddwbl-glicio dogfen? Be sy’n digwydd wrth agor Word ac agor ffeil trwy File > Open? … ayyb.

    Mae na broblem efo rhai rhaglenni os yn dewis rhyngwyneb Cymraeg sy ddim yn bodoli. Yn Sys Prefs > Language & Text, triwch tynnu Cymraeg o’r rhestr dan y tab Language. (Dim ond dan y tab Input Sources mae angen bod ar gyfer teipio acenion).

    Pwy oedd y dyn o’r Philippines? Oes mae problem Word yn unig ydi o, gwell siarad efo Microsoft. Os yn effeithio ar raglenni eraill ar y cyfrifiadur, gwell siarad efo Apple.

  2. Digwyddodd yr un peth i fi, ac ar ol sawl galwad ffon gyda Microsoft ac Apple a sawl wythnos daeth yr ateb i’r amlwg.

    Mae’n iawn i gael y Gymraeg fel dewis ar y mac, ond mae’n rhaid i’r cyfrifiadur weithio mewn iaith mae rhaglenni yn deall e.e. saesneg. Achos dyw Word ddim yn gweithredu yn y Gymraeg mae’n drysu ac yn mynd yn corrupt.

    Problem fawr ond ateb syml.

  3. Ces i broblem tebyg unwaith. Ar hyn o bryd mae’r Mac yn gweithio’n iawn yn Gymraeg ond dwi ddim yn defnyddio Word/Office. O ran y Gymraeg mae Ubuntu Cymraeg yn llawer mwy effeithiol.

  4. Dwi’m yn meddwl bod y wybodaeth rhoddwyd i Nia cweit yn gywir (mae Office yn gweithio iawn ar fy Mac i, er fersiwn 2008 ydi o dwi’n meddwl, a phrin dwi’n ei ddefnyddio rhaid dweud). Sdim rhwystr technegol i gael yr OS yn defnyddio iaith gwahanol i’r meddalwedd (dydi Office ddim ar gael ym mhob un o ieithoedd OS X beth bynnag). Ac eisiau *teipio* yn Gymraeg ma nhw beth bynnag, sy bach yn wahanol i newid y rhyngwyneb – fydda fo braidd yn od i wneuthurwr prosesydd geiriau ddweud mai dim ond yn Saesneg fedrwch chi deipio ynddo, ond wedyn does wybod efo Microsoft…

  5. Ges i drafferth (ond ddim yn cofio unrhyw beth penodol gyda Word) wrth roi’r Gymraeg fel y dewis cyntaf ar gyfer ieithoedd, ond os yw’n ail yn y rhestr ieithoedd roedd y broblem yn diflannu.
    Dwn i’m os di hyn yn helpu.

Mae'r sylwadau wedi cau.