Fasech chi’n ystyried symud eich busnes digidol i barc data yn Eryri?

Mae Cyngor Gwynedd a’r Llywodraeth yn ceisio denu cwmni i sefydlu parc data ar safle pwerdy Traws – ochr yn ochr â hwn mae’n bosib y  byddai na ymgais i greu clwstwr busnesau digidol allai fanteisio ar fod mor agos at y ganolfan ddata. Mae nhw’n trio gweld pa fath o ffactorau fyddai cwmniau yn eu ystyried cyn symud i rywle fel’na ac felly’n trio cael syniad o hyn drwy holiadur.

Dyma’r blyrb:

Mae Parc Data Eryri yn fenter gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear a Magnox; yn bwriadu i ddenu Canolfannau Data a Mentrau Digidol i cyn-safle pwerdy Trawsfynydd er mwyn manteisio ar ei rhinweddau unigryw gan gynnwys ei chysylltiadau â grid trydan cenedlaethol y Deyrnas Unedig.

Mae’r safle o fewn Parc Cenedlaethol Eryri ac wedi ei lleoli’n strategol rhwng Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth – canolfannau o ragoriaeth academaidd a thechnegol yn y meysydd Amgylchedd ac Ynni a TGCh.

Mae’r safle yn ddiweddar wedi ei ddynodi’n Barth Menter ar gyfer y sectorau TGCh ac ynni ac yn rhan o strategaeth ehangach ar gyfer dyfodol y rhanbarth.

Pwrpas yr arolwg yw i ofyn am eich cymorth i’n helpu i ddeall pa asedau posib sydd gan yr ardal ar gyfer entrepreneuriaid digidol a sut allwn gefnogi mentrau digidol i sefydlu a thyfu yn yr ardal.

Diolch i chi am eich amser.

A dyma’r holiadur: https://arolwg.gwynedd.gov.uk/index.php?sid=56627&newtest=Y&lang=cy

Mae na fwy o wybodaeth am  y Cynllun Parc Data yma:  http://www.snowdoniadatapark.co.uk/?lang=cy

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.