Hacio’r Iaith yn rhan o Ŵyl Dechnoleg yr Eisteddfod Gen

Dwi’n falch bod y cyhoeddiad swyddogol wedi cael ei wneud am y bartneriaeth gyda’r Eisteddfod Gen eleni. Mae’n argoeli i fod yn wythnos wych a chyffrous a chyfle i gyfarfod llwythi o bobol newydd sydd efo diddordeb mewn pob math o agweddau ar dechnoleg yn y Gymraeg.

Dyma’r gofnod ddiweddaraf ar y blog yn trafod ein amserlen drafft. Plis ewch draw a chyfrannwch eich syniadau. Mae dal amser i wneud newidiadau, neu roi awgrymiadau pellach.

Byddwn ni hefyd isio cymuned Hacio’r Iaith i wirfoddoli i fod o gwmpas yn rhai o’r slotiau os yn bosib. Mae’n debgy y byddwn ni’n gallu darparu rhywfaint o docynnau i’r maes am eich amser.  Bydd yna dudalan drafod fanylach ar hedyn.net cyn bo hir hefyd.

Dyma’r  datganiad i’r wasg gan yr Eisteddod yn rhoi rhai manylion:

GŴYL DECHNOLEG GYMRAEG I’W CHYNNAL AR FAES EISTEDDFOD 2012

Heddiw (12 Mehefin), cyhoeddwyd manylion prosiect cyffrous a fydd yn rhoi llwyfan cenedlaethol i dechnoleg Gymraeg ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg eleni.

Gan weithio gyda phrosiectau Hacio’r Iaith a Chasgliad y Werin, bydd yr Eisteddfod yn cynnal Gŵyl Dechnoleg Gymraeg y Maes, sef wythnos o sesiynau sy’n debygol o ddenu’r rheini sydd â diddordeb mewn technoleg a’r iaith Gymraeg, yn ogystal â’r rheini sydd heb roi tro arni eto. Bydd y sesiynau yn gymysgedd o weithdai, sesiynau galw draw a thrafodaethau.

Bydd cyfle i flogio am eich profiadau Eisteddfodol, defnyddio technoleg er mwyn ymarfer a gwella’ch Cymraeg, a bydd hefyd yn gyfle i gael cyngor ac i roi tro ar dechnolegau gwahanol yn ystod yr wythnos.

Un a fu’n rhan greiddiol o’r trafodaethau o’r cychwyn yw Llywydd Anrhydeddus Eisteddfod 2012 a Chadeirydd y Pwyllgor Llenyddiaeth, Euryn Ogwen Williams, sydd ei hun wedi bod yn arloesi ym maes technoleg a’r Gymraeg am flynyddoedd lawer.  Meddai, “Gyda miloedd o ymwelwyr yn flynyddol, pa le gwell sydd i ni fod yn siarad a thrafod technoleg a’r iaith na Maes yr Eisteddfod?  Mae’r Maes yn hwb o gyfathrebu eisoes, ac mae’r Ŵyl newydd hon yn gyfle i ni ddatblygu’r elfen hon ac i roi hyder a’r sgiliau angenrheidiol i lawer mwy o bobl fynd ati i ddefnyddio technoleg yn y Gymraeg.

“Rwy’n hynod falch bod y bartneriaeth hon rhwng yr Eisteddfod a Hacio’r Iaith yn arbennig wedi dwyn ffrwyth a’r gobaith yw y bydd nifer fawr o bobl yn mynd ati i flogio a rhannu’u profiadau am Eisteddfod y Fro ar y Maes ei hun ac ar ôl mynd adref.  Yn ogystal â sesiynau ffurfiol ac anffurfiol, bydd cyfle hefyd i bobl alw mewn i flogio ar ddiwedd y dydd, i fynegi barn am enillwyr y prif seremonїau efallai, neu i rannu profiadau diwrnod ar y Maes.  Bydd yr Ŵyl newydd hon yn gaffaeliad mawr i’r Eisteddfod.

“Mae’r gwaith mae Hacio’r Iaith wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf yn eithriadol o bwysig i’r Gymraeg ac i dechnoleg newydd drwy gyfrwng yr iaith, ac rwy’n hynod falch ein bod yn creu’r bartneriaeth hon eleni i adlewyrchu’r rôl bwysig sydd gan Hacio’r Iaith, Casgliad y Werin a’r Eisteddfod ei hun i’w chwarae yn hybu technoleg a’r Gymraeg.”

Noddir gweithgareddau Hacio’r Iaith gan Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, ac fe’u cynhelir ym mhabell Cefnlen, rhwng Y Lle Celf a’r Babell Lên.  Noddir Cefnlen gan gwmni Imaginet o Gaerdydd, sydd wedi darparu gwasanaethau gwe i’r Eisteddfod ers nifer fawr o flynyddoedd, ac wedi bod yn rhan hollbwysig o ddatblygiad technegol presenoldeb yr Eisteddfod ar y we.

Ychwanegodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, “Mae’r Eisteddfod wedi bod ar flaen y gad ym maes technoleg a’r iaith yn y gorffennol.  Y Brifwyl oedd un o’r sefydliadau cyntaf i gael gwefan ddwyieithog, ac yna bu cryn arbrofi gyda thechnoleg ‘Bluetooth’ cyn i iSteddfod – un o’r apps dwyieithog cyntaf – gael ei lansio ddwy flynedd yn ôl.  Felly, rydym yn falch iawn o gyhoeddi manylion Gŵyl Dechnoleg Gymraeg y Maes heddiw, ac o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Hacio’r Iaith a Chasgliad y Werin.

“Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi datgan eu hymroddiad i hybu technoleg a’r iaith, a rydym ni’n gweld yr Ŵyl hon ym mhabell Cefnlen fel rhywbeth y gellir ei ddatblygu ymhellach yn ystod y blynyddoedd nesaf i ymateb i anghenion ein marchnad ac unrhyw ddatblygiadau pellach ym myd technoleg a’r Gymraeg.”

Cyhoeddir amserlen Cefnlen: Gŵyl Dechnoleg Gymraeg y Maes cyn diwedd Mehefin, a bydd y manylion i gyd ar gael ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.org.uk.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar hen faes awyr Llandw ger Y Bontfaen a Llanilltud Fawr o 4-11 Awst.  Am ragor o fanylion ewch i’r wefan.  Am ragor o wybodaeth am Hacio’r Iaith ewch i www.haciaith.cymru.

-diwedd-

1 sylw

  1. Mae’n digwydd!

    Newydd meddwl… Mae ‘gŵyl’ yn haeddu pethau arbennig. Perfformwyr, gwisg ffansi, asyn, seindorf vuvuzela…

Mae'r sylwadau wedi cau.