YouTube ac amgylchedd dysgu Dan Rhys #rhanidan

Mae Dan Rhys yn siarad am dri gwasanaeth y wnaeth e defnyddio er mwyn dysgu Cymraeg:

1. BBC Big Welsh Challenge
2. SaySomethingInWelsh
3. fideos YouTube

Braf i weld ei ail sgwrs yn Gymraeg erioed yn y fideo yma. Dyma pam dyw e ddim yn wastraff i roi unrhyw fideo ar YouTube bron. Os wyt ti’n sgwennu teitlau a thagiau cywir mae rhywun yn y byd yn gallu joio dy fideo ac yn manteisio arno fe rhywsut. Ac os fyddi di’n trio creu rhywbeth eithaf da bydd y canlyniad yn dderbyniol bron bob tro.

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.