Hwyl fawr fforymau WalesOnline – a dy gynnwys

Dw i newydd gweld y stori yma o 20fed mis Gorffennaf eleni.

Nawr mae pob dolen o’r ffurf
http://forums.walesonline.co.uk
yn anffodus yn mynd yn syth i’r un tudalen gyda’r un testun:

The number of posters using the WalesOnline forums has fallen recently, with more people opting to comment directly on articles. However, the number of complaints and disputes on the forums has increased to the extent that moderating the message boards is now a significant drain on resources.

Therefore, we have regretfully taken the decision to close the forums.

Registration for WalesOnline community accounts remains unaffected; new users can register for an account and existing users can login as usual to access the comments facility on articles.

Roedd gyda nhw dewis yma:
1. rhewi’r fforymau a chadw’r cynnwys (gorau)
2. neu jyst dileu’r cynnwys i gyd heb unrhyw rybudd (gwarthus)
Dw i ddim yn golli cwsg drosto fe ond mae’n atgoffa fi: bydd yn ofalus os ti’n treulio amser i bostio pethau ar wefannau o gwmpas y we, yn enwedig gwefannau newyddion masnachol. Mae’n bosib bod ti’n gwastraffu dy amser.

Mae gwers yma i wefannau eraill hefyd. Er bod maes-e wedi dirywio neu rydyn ni’n symud i ffwrdd o’n blogiau neu gwefannau weithiau, mae gwerth yn yr hen gynnwys.

e.e. trafodaeth am Gymraeg a dysgu Cymraeg – mae’r cynnwys i gyd wedi marw http://forums.walesonline.co.uk/viewforum.php?f=30