SWYDD: Llywodraeth Cymraeg: Uwch-reolwr Datblygu Busnes – Cyfryngau Digidol

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am nodi camau allweddol a sicrhau eu bod yn cael eu cymryd er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu potensial economaidd diwydiannau’r Cyfryngau Digidol yng Nghymru. Swydd strategol yw hon a fydd yn ei gwneud yn ofynnol gweithio ar draws nifer o feysydd allweddol i sicrhau’r canlyniadau gorau i’r economi greadigol yng Nghymru, gan gynnwys: elwa’n fasnachol, datblygu sgiliau, arloesi, mewnfuddsoddi, datblygu masnach, cydweithredu academaidd a darparu cymorth ariannol arbenigol i fusnesau a’u helpu i reoli cysylltiadau yn y sector.

Mae’r swydd yn cynnwys bod yn rheolwr llinell ar yr ymarferwyr datblygu busnes yn y tîm a sicrhau ansawdd holl waith y tîm.

Mae’r swydd hefyd yn cynnwys darparu adborth ar sail tystiolaeth i Bennaeth y Sector, Panel y Sector Diwydiannau Creadigol a’r Gweinidogion ynglŷn â materion gweithredol a strategol.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli cysylltiadau lefel uchel â rhanddeiliaid y sector y tu mewn a’r tu allan i’r Llywodraeth.

Mae tair swydd Uwch-reolwr Datblygu Busnes yn y tîm Diwydiannau Creadigol, ac mae deiliaid y swyddi hynny yn canolbwyntio ar: Darlledu, Cyhoeddi a Ffilmio; Cyfryngau Digidol; a Chelfyddydau, Dylunio a Cherddoriaeth.

Cytundeb: Parhaol
Cyflog: £44,000
Sgiliau Cymraeg: Dim Angen

https://atsv7.wcn.co.uk/search_engine/jobs.cgi?SID=amNvZGU9MTE5NTQzNiZ2dF90ZW1wbGF0ZT0xMTMxJm93bmVyPTUwMjMzNjgmb3duZXJ0eXBlPWZhaXImYnJhbmRfaWQ9MCZyZXFzaWc9MTMxMzQ5NzQ2NS0yMTZhYjc1ZTdjMTZjOWJhNGE1YzQ0NThlZTM1YWI5ZmNlZDc4ODM3

http://jobs.guardian.co.uk/job/4344675/senior-business-development-manager-digital-media/