Eisteddfod 2011: Y Gystadleuaeth Blogio

Llongyfarchiadau i Carwyn Tywyn am ennill cystadleuaeth blogio’r Eisteddfod. Dwi’n siwr bod ei waith yn deilwng a hoffwn i ei ddarllen.
Dwi’n falch bod yr Eisteddfod yn ceisio gwneud lle i ddulliau gwahanol o sgwennu, ond dwi’n meddwl bod yn rhaid codi cwestiynau eithaf sylfaenol am y gystadleuaeth hon.

Dyma oedd yn y rhestr testunau am 2011:

166. Blog dros gyfnod o fis hyd at 3,000 o eiriau. Dylid cyflwyno’r gwaith ar ddisg yn unig.
Ystyrir cyhoeddi’r buddugol ar safle we’r Eisteddfod
Gwobr:
£200
Beirniad: Lyn Lewis Dafis

Mae na sawl peth yma sydd yn peri dryswch ac yn fy marn i yn atal y gystadleuaeth rhag cyrraedd ei photensial.

Pam bod angen cyflwyno ar ddisg yn unig? Os taw pryder am olygu testun y blog yn ystod neu ar ôl beirniadu sydd wrth wraidd hyn yna gofynnwch am sgrinlun, argraffu’r dudalen neu gopi Word o’r blog fel copi wrth-gefn, ond yr URL ddylai fod y flaenoriaeth (dyna sy’n digwydd gyda’r asesiadau blogio ym Mhrifysgol Aberystwyth). Os nad oes angen creu blog, neu fod â blog eisoes wedi ei greu i gystadlu, yna mae’n annodd gen i weld sut gellir ei alw’n flog.

Drwy gynnal cystadleuaeth blogio dylai’r Eisteddfod weld bod y cyfrwng, a’r hyn a ysgrifennir ar y cyfrwng, yn annatod ac taw annog defnydd priodol o’r cyfrwng sydd eisiau. Mae cyfrwng canu yn cael llwyfan priodol, mae cyfrwng barddoniaeth yn cael cyhoeddiad priodol, mae cyfrwng dawns yn cael trac sain bridol – dylai’r Eisteddfod dderbyn llwyfan priodol blog.

Mae’r Eisteddfod hefyd yn dweud y basen nhw’n ‘ystyried cyhoeddi’r buddugol ar eu gwefan’, ond dylai’r ennillydd (os nad pob cystadleuydd) gael dolen o wefan yr Eisteddfod. Mae dolen yn werth llawer mwy na chopio testun ar wefan yr Eisteddfod, achos mae’r ddolen honno’n debygol o gael ei dychwelyd gan y blog. Does dim cost i ddolen, nid oes prinder lle ar y we, ac mae’n hybu defnydd o flogiau lle maen nhw’n fod i fodoli: ar y we ac nid ar bapur. Ni ddylid cyhoeddi cofnod blog yn y cyfansoddiadau am y rheswm hwnnw chwaith (os yw hynny’n fwriad hynny yw). Os taw eisiau cael cynnwys wedi ei gynhyrchu yn benodol ar gyfer y gystadleuaeth mae’r Eisteddfod ei eisiau, mae hynny hefyd yn mynd yn groes i natur agored a chymdeithasol blogiau hefyd.

Dylai unrhyw flog fod ar y we: dyna natur blog. Er bod dadlau am beth sy’n diffinio blog ar wahan i gyhoeddi ar ffurfiau eraill electronig, mae dolenni (mewnol ac allanol), RSS, sylwadau, a’i fod arlein yn rhai o’r elfennau craidd.

Rydw i’n gweld (diolch @cetyn!) bod y gystadleuaeth yn rhedeg eto ar gyfer 2012, a chan nad oes unrhyw fanylion am ddull cyflwyno y tro hwn, bydda i’n annog pawb sydd wedi blogio o gwbl ym mis Mawrth 2012 i URLs eu cofnodion gorau at yr Eisteddfod a gweld beth ddaw. Ond er eglurder i bawb ac er mwyn hybu’r cyfrwng orau posib byddwn yn annog y Steddfod i roi rhai canllawiau pellach a sicrhau bod blog yn cael ei drin fel blog. Pwy a ŵyr efallai bydd mwy yn cystadlu: wedi’r cyfan mae 56 blog newydd yn 2011 yn barod, oni ddylen nhw i gyd fod yn cystadlu a chael link, ac yn eu tro yn dolennu nôl at yr Eisteddfod gan greu loop sydd yn fanteisiol i bawb?

Diweddariad 23.9.11 (gan Rhys Wynne)

Tydy’r cofnod blog  buddugol ddim wedi ei gyhoeddi yng Nghfansoddiadau 2011 a toes dim golwg o ddolen at er eu gwefan. Yn ogystal a’r gystagleuaeth mae @cetyn wedi tynnu llun ohono, mae dwy gystadleuaetharall sy’n cynnwys y gair ‘blog’ yn 2012 hefyd:

121. Blog neu ddyddiadur [ar gyfer dysgwyr]

Tua 150 o eiriau

Lefel Sylfaen

Gwobr £50

a

170. Cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes

‘Achlysur i’w gofio’ (heb fod yn llai na 1,500 o eiriau) ar ffurf traethawd, cyfres o negeseuon e-bost neu flog

Gwobr £200

Diweddariad 30.9.11

Yn yn ôl cyfrif Twitter yr Eisteddfod:

Byddwn yn cyhoeddi dolen i’r blog a mwy o wybodaeth o’r Cyfansoddiadau ar ein gwefan yn fuan iawn.

7 sylw

  1. Cytuno yn llwyr.

    Does dim sôn am amlgyfrwng chwaith, un o fanteision pwysicaf y we. Efallai dylai llun neu fideo cyfrif fel 1000 gair! Neu dylen nhw feddwl am lansio cystadleuaeth ar wahân, i fideo ar-lein.

    Hefyd nid blog ond cofnod blog yw’r her yma. Mae’r gwahaniaeth yn bwysig. Yn sicr mae lle am gystadleuaeth cofnod blog, sef cyfansoddi un eitem dda. Ond mae’n anodd creu cystadleuaeth i wobrwyo blogiau llwyddiannus: cymuned dda, sgyrsiau da (weithiau trwy’r sylwadau, weithiau ar y blogosffêr), perthnasedd y cynnwys ac yn cael eu cynnal am dymor hir.

  2. Ie, o’n i’n meddwl sut fase nhw’n ymateb i Myndiawlmundial neu S4Cnewydd? A fyddai blog tumblr gyda dyfyniadau, lluniau a chlipiau fideo’n dderbyniol, neu ai llenyddiaeth destunnol ar ffurf electronig maen nhw eisiau?

    Dwi’n credu eu bod yn gofyn am gyfres o gofnodion blog (er taw ‘blogiau’ yw’r term yn y gystadleuaeth am 2012, sydd braidd yn ddryslyd efallai) yn hytrach nac un cofnod.

    Un ffordd sydd i ffeindio allan mae’n debyg: anfon URLs a gweld be ddaw…

  3. Mae’n costio £5 am pob ymgais cofiwch (er, mae’n werth o, os yw’r wobr yn £200)

  4. Un broblem ymarferol gyda jyst danfon URL’s mewn yw bod nifer o flogwyr yn blogio o dan eu henwau iawn, tra mae eisiau i gystadleuwyr cysatdlaethau’r Eisteddfod wneud hynny o dan enw ffug.

    Ond dyma’r math o bynciau y dylid eu hystyried au trafod yn fan hyn, a diolch am godi’r pwnc, Rhodri.

    Roedd cystadleuaeth fel yn yn 2009 os d wi’n cofio’n iawn, ac os edrychwch ar gyfansoddiadau’r flwyddyn honno, dw i ddim yn meddwl i neb gystadlu. Pan ofynwyd i mi feirniadu cystadleuaeth tebyg, ond ar gyfer dysgwyr yn 2010, holais os oedd unrhyw ganllawiau arbennig, oherwydd tybiais byddai diffyg manylion a dealltwriaeth am beth yn union yw blog yn golygu mai prin fyddai’r rhai a fyddai’n cystadlu (roeddwn yn iawn, mond dau wnaeth drio, ac ar bapur!). Dyma oedd ymated yr Eisteddfod:

    Mae’r math yma o gystadleuaeth yn un newydd gan fod blogs yn rywbeth diweddar. Nid ydym yn paratoi canllawiau ar gyfer y gystadleuaeth hon- prin iawn yw’r achosion y byddem yn paratoi unrhyw fath o ganllawiau.

    …….

    Mae cystadlaethau fel hon ac eraill yn y maes technoleg newydd yn mynd i gymryd tipyn o amser i ddenu pobl i gystadlu mae gen i ofn-roedd un debyg i fewn yn yr adran llên ond gwan yw’r ymateb o gymharu a chystadleuaeth fel englyn dywederond efallai mai dyfal donc sydd raid.

    Mae eisiau canmol yr Eisteddfod am geisio cyflwyno mathau newydd o gystadlaethau, ac hefyd am ddyfalbarhau gyda nhw hyd yn oed os nad oes llawer o ymateb ar y dechrau, ond mae’n biti nad ydyn nhw hefyd yn fodlon bod yn fwy hyblyg a gweld yr angen i roi bach o gyfarwyddiadau pellach, yn arbennig gan eu bod yn cydnabod ei fod yn gystadleuaeth gwahanol iawn i’r rhai traddodiadol.

    Plis pobl yr Eisteddfod, byddwch yn barod i addasu pethau, ac hefyd peidiwch a bod ofn dod i ofyn yma am unrhyw awgrymiadau/cyngor.

  5. Mae dwy gystadleuaeth arall gyda’r gair ‘blog’ yn y manylio. Gweler y diweddaraid i’r cofnod blog.

Mae'r sylwadau wedi cau.