Blogiau sy’n gysylltiedig â S4C

Meddwl am y categori yma: http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_sy%27n_gysylltiedig_%C3%A2_S4C (7 blog yn unig)

Unrhyw blogiau eraill – rhaglennu, digwyddiadau, pethau eraill?

Oes blogiau gyda chyflwynwyr a phobol S4C?

Mae blogiau sy’n cysgu yn hollol iawn.

Mae lot o gynnwys o deledu ar gael ond ar goll mewn Facebook yn unig. ‘Yr unig’ yw’r problem, beth am Facebook a blog? Ble fydd y stwff Facebook pan mae DVD yn dod mas? Neu mae’r sianel yn ail-adrodd rhaglennu?

Mae cyfleoedd i drio pethau ‘arloesol’/gwahanol, fel Ar Lafar – map o dafodieithoedd (NEIS!)

Neu dweud stori gyda fideo, testun a lluniau fel Byw yn y Byd

Bydd Cariad@Iaith a Newid Byd yn blogiau gwych, er enghraifft – mae tudalennau Facebook yn unig ar hyn o bryd.

7 sylw

  1. Carl,
    Diolch am dy sylwadau – gwethfarogi’r mewnbwn yn fawr, a falch clywed gan rhywun sy’n dallt y dalltings ein bod yn mynd ati i lunio pethau’n gywir ar dudalen Facebook a Twitter cariad@iaith@love4language.

    Mae’r gyfres yn siapo’n ryfeddol o dda. Wyth seleb adnabyddus tu hwnt, a digon o newyddion i’w ‘drip-ffidio’ i gadw’r gwylwyr a’r blogwyr yn hapus!

    Da’n ni’n croesawi syniadau a sylwadau bob tro!

    Cofion oll,
    Tim cariad@iaith:love4language

  2. Wedi ychwaneg 8fed blog, sef Popeth yn Gymraeg. Roedd ar y rhest yn barod, ond ddim wedi ei gategorieddio’n llawn.

    Dw i’n edrych ymlaen at gyfres cariad@iaith – rodd ffrind prifysgol i mi a’m gwriag yn cymryd rhan yn y gyfres gyntaf un (yr un pobl cyffredin, nid y slelbs), sef Ursula, y Wyddeles.

    Ta beth, es i draw i dudalen Facebook cariad@iaith rawn i weld mwy. Mae’n dda bod nhw wedi dewis y gosodiad agored fel bod pawb yn medru ei ddarllen, ond roedd rhaid mewngofnodi i adael sylw. Do’n i heb fewngofnodi ar Facebook ers misoedd, ac wedi mewngofnodi, do’n i dal ddimyn gallu gadael sylw. Roedd rhaid i fi ofyn ar Twitter sut mae gadael sylw ar Facebook! Yr ateb oedd, oedd rhaid ‘Hoffi’r dudalen yn gyntaf.

    OK, d wi’n gwybod yr ateb rwan, ond mam bach, dyma lle mae blog yn rhagori dros Facebook a Twitter – does dim rhaid bod a chyfrif i adael sylw, felly llai o rwystr i bobl gyfrannu.

    Mantais arall blogiau, yn enwedig rhai ar cy.wordpress.com ydy’r serendipity posib os ydych yn tagio eich cofnodion blog, gyda pethau fel fideo, s4c, ac os byddai blog Saesneg ar en.wordpress.com, drwy’r tag welsh

  3. Dw i’n deall y fantais Facebook, mae’n boblogaidd ac hawdd. Wrth gwrs dylai cwmniau teledu gymryd mantais o’r gwasanaeth.

    Rydyn ni’n trio adeiladu ‘achos’ am y we agored yma.

    Nes i siarad am y cyfleoedd i fod yn arloesol uchod. Mantais 1.

    Mantais 2. Bydd stwff ar y we agored, e.e. blog (neu hyd yn oed blogiau gwahanol gan y dysgwyr gwahanol), yn ymestyn mas i gynulleidfa wahanol a bwydo’r uber-ffans. Bydd lot ohonyn nhw yn hyrwyddo’r gyfres ar eich rhan; y mavens, cysylltyddion, dylanwadwyr, yr uber-ffans, beth bynnag yw’r term ar hyn o bryd. Felly mae mantais o ran cyhoeddusrwydd, hyrwyddo’r rhaglen nawr.

    Mantais 3. O safbwynt ni, diffyg cynnwys Cymraeg ar y we yw problem enfawr arall… Neu cyfle enfawr os ti eisiau bod yn bositif. Tu fas o gyhoeddusrwydd dylen ni, yn fy marn i, meddwl am y profiadau ar-lein. Mae dysgwyr wastad yn gwerthfawrogi deunydd, tips, fideos, cydarwaith ac ati – ar alw. Dw i’n gwybod achos dw i wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn. Roedd chwant stwff Cymraeg arnaf i (nid pethau sylw i ddysgwyr yn unig ond stwff o bob math).

    Mantais 4. Y dyfodol o’r cynnwys. Rydyn ni’n gallu sgwennu dolen i gofnod blog penodol Popeth yn Gymraeg nawr, e.e. Ifor ap Glyn yn Y Fenni yn 2005. Dw i wedi bod yn gwylio’r gyfres ar DVD am y tro cyntaf mis yma, mewn gwirionedd. Mae Facebook yn wahanol, fyddan ni dal yn darllen ein tudalennau Facebook yn 2017, tybed? Dych chi wedi trio chwilio am gofnod neu post o flynyddoedd neu hyd yn oed misoedd yn ôl?!

  4. “Mavens”? Y’t ti ‘di darllen “The Tipping Point” hefyd, felly?! Am lyfr da!

    Dw i’n cytuno â dy bwyntiau i gyd, wir. Ond y gwirionedd amdani yw fod tudalen Facebook yn hynod hawdd ei gadw i fynd (hyd yn oed ar ‘slow news day’, fel heddiw – noder y lluniau o’r Swyddfa . Mae angen setio Blog i fyny – ac yng nghanol y gwaith cynhyrchu, does yna lawr o amser ‘potsian’, fel petai.
    Da’n ni wir yn gweld pa mor bwysig ydy cyfarthrebu electronig, ond mae amser a chyllideb yn ffactor bwysig i ystyried hefyd.

Mae'r sylwadau wedi cau.