Dyn dewr fyddai’n camu mewn i ffrae rhwng Angharad Mair a Cris Dafis ac rwy’n gobeithio na fyddaf yn pechu’r naill neu’r llall o golofnwyr Golwg trwy wneud hynny!
Fe fydd darllenwyr y cylchgrawn yn ymwybodol bod y ddau wedi bod yn ffraeo rhiw faint ynghylch pwysigrwydd datblygiadau diweddar ar y we i ddyfodol y Gymraeg.
Roedd Cris yn gweld datblygiad UMAP Cymru, y safle sy’n dod a thrydarwyr Cymraeg ynghyd, fel cam tuag at greu rhyw fath o rith-gymuned Gymraeg. Roedd Angharad yn gweld dim byd mwy na lot o glebran gwag. Mae’n gwbwl bosib i’r ddau fod yn gywir wrth gwrs.
Yn sicr mae’r safle ynghyd a chyfres o ddatblygiadau eraill wedi rhoi hwb sylweddol i’r we Gymraeg oedd wedi dechrau teimlo fel lle cymharol sglerotig yn ystod y blynyddoedd diwethaf…
http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/vaughanroderick/2011/03/rhithfyd.html
am fwy
Sgwenna dy sylw ar y cofnod gwreiddiol neu isod.
Meddyliau…
Mae cystadleuaeth yn newyddion neu cynnwys ar-lein yn wahanol iawn i gystadleuaeth yn farchnadoedd o stwff cyffyrddadwy all-lein, yn enwedig trwy’r iaith Gymraeg.
Golwg360 / Y Cymro:
1. Maen nhw dau yn cynnig darpariaethau newyddion am ddim.
2. Maen nhw dau gyda’i gilydd yn cystadlu gyda digonedd o newyddion/cynnwys Saesneg.
3. Rydyn ni angen rhwydwaith a chymunedau gwell o bobol Cymraeg ar y we
4. Mae newyddion wedi cael ei dadfwndelu – ar-lein pob stori yw clic i ffwrdd
Felly mae Golwg360 a’r Cymro yn gallu tyfu’r farchnad am ei gilydd. Wrth gwrs maen nhw yn gallu cystadlu am scoops ayyb. Ond dylen nhw siarad am ffyrdd i gyd-weithio yn sicr. Does dim pwynt copïo cynnwys os mae’r pethau i gael yn barod.
e.e. dychmyga: mae Golwg360 yn ffeindio stori gyntaf, dylai’r Cymro rhoi ffocws ar elfen unigryw gyda dolen i’r stori ar Golwg360. A vice-versa.
Mae Google yn dy anfon di i lefydd eraill, yn gynnwys Yahoo a Facebook. Ti’n dod yn ôl i rywle ddefnyddiol.