Y Cofnod Cynulliad, Panel Adolygu “Annibynnol” ar Wasanaethau Dwyeithiog

Gwelaist ti’r newyddion siwr o fod.
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8690000/newsid_8691500/8691579.stm
Dyn ni angen fersiwn Cymraeg yn wlad ddwyieithog yn bendant.

Ond tynodd rhywbeth arall fy sylw. Dwedodd Dafydd Elis-Thomas yna

Dyna pam ein bod yn falch o ddilyn argymhellion y panel, yn arbennig ei gynnig ynghylch sicrhau bod cofnodion o Drafodion y Cynulliad yn haws eu defnyddio, a hynny drwy ddefnyddio technoleg fodern mewn ffordd fwy dyfeisgar.

Felly dw i’n darllen yr adroddiad llawn, maen nhw yn sôn am dechnoleg.
http://www.cynulliadcymru.org/review-of-bilingual-services-report-english.pdf (Cymraeg)

O’r cychwyn cyntaf, mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi ceisio arwain y ffordd o ran defnyddio technoleg i ddarparu gwasanaethau seneddol, ac rydym yn cytuno â’r farn hon…

Rydym yn argymell bod y Cynulliad yn parhau i adolygu datblygiadau technolegol, er mwyn manteisio ar feddalwedd adnabod llais amlddefnyddiwr cyn gynted ag y bo wedi’i datblygu’n ddigonol i gael ei defnyddio’n effeithlon.

Does dim lot o fanylion caled neu esboniadau pam dyn ni angen meddalwedd adnabod llais.

Beth dylai’r Cynulliad yn wneud gyda’r cofnod? Dw i’n gallu meddwl am 1 neu 2 peth.

3 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.