cy.wordpress.org

Rydyn ni’n gweithio gyda’r cymuned WordPress ac Automattic ar wefan swyddogol WordPress Cymraeg.

Cartref

Cynllun: rhywle canolog am WordPress Cymraeg. Bydd e’n bosib mynd i cy.wordpress.org a lawrlwytho pecyn Cymraeg heb ffwdan.

1. Mae’r wefan cy.wordpress.org yn rhedeg WordPress gyda thema arbennig Rosetta. Dw i dal yn cyfieithu’r thema.

2. Mae WordPress 3.0 ar y ffordd. Mae fersiwn beta ar gael yn barod. Mae gyda ni tua 2 wythnos i wneud cyfieithiadau rhwng “ymgeisydd rhyddhad” a rhyddhad swyddogol. Rydyn ni’n gallu adeiladu ar gwaith Iwan Standley a Rhos Prys. Felly bydd e’n bosib lawrlwytho’r fersiwn Cymraeg newydd ar yr un tro Saesneg, Sbaeneg a llawer o fersiynau eraill o gwmpas y byd!

Wyt ti’n gallu helpu? Dweda yn y sylwadau os gwela di’n dda! Does dim angen profiad o flaen llaw. Dylen ni defnyddio Poedit neu meddalwedd debyg.

Bydd y côd ar gael i bawb wrth gwrs dan trwydded GPL. Mae wordpress.com yn gallu defnyddio’r côd hefyd neu unrhyw gwasanaeth arall.

Byddi di’n cyfrannu i’r genhedlaeth nesaf Cymraeg arlein, creu cyfleoedd gwaith newydd i dylunwyr/côdwyr ayyb, ysbrydoli pobol eraill a gobeithio dysgu rhywbeth.

4 sylw

  1. Helo Chris, dwi’n meddwl bod fy nhad wedi gorffen cyfieithu WordPress 3, ond mae o wedi bod yn yr Aifft yn ddiweddar. Beth am ei wahodd i redeg cy.wordpress.org efo ti? Fe wnaeth gais i WP i roi pecyn 2.9 i fyny ar wordpress.com, ond gafodd o fyth ateb gan Automattic.

Mae'r sylwadau wedi cau.