Haclediad #37: Google… anghofia hi.

Tro yma ar yr haclediad bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn rhoi Nest Iest ar Test (iep, thermostat clyfar, w, cyffro!), gofyn i Google ein hanghofio ni, ac yn ail-fyw dyddiau euraidd gemau Nintendo trwy gemau newydd y Wii U o gynhadledd E3 yn Vegas. Ac wrth gwrs, bydd digon o jôcs gwael a thrafod… Parhau i ddarllen Haclediad #37: Google… anghofia hi.

Haclediad #36: Yr un hwyrach na Office i’r iPad

Ar rifyn yma’r haclediad bydd y criw yn cadw’u pennau yn y cymylau – wrth rêtio a slêtio systemau gweithio cwmwl rhai o’r cwmnïau mwyaf allan yna. Gyda Microsoft Office yn cyrraedd yr iPad (o’r diwedd), pa ddewisiadau arall sy’na i drefnu’ch taenlenni marwolaethau Game of Thrones? Byddwn yn sbecian ar sefyllfa Facebook yn prynu… Parhau i ddarllen Haclediad #36: Yr un hwyrach na Office i’r iPad

Haclediad #34: Youview, nhw-view a Haciaith 2014

Ar y rhifyn cyn-Haciaith 2014 yma bydd y Iestyn, Bryn a Sioned yn rhoi croeso gwresog i S4C i blatfform Youview; croeso a rhybydd i CEO newydd Microsoft, ac wrth gwrs cyffroi’n wirion cyn digwyddiad byw Hacio’r Iaith 2014 ym Mangor ar Chwefror y 15fed… welwn ni chi yno! Dolenni S4C ar Youview WebOS ar… Parhau i ddarllen Haclediad #34: Youview, nhw-view a Haciaith 2014

Haclediad #33: Ho-ho-haclediad

Croeso i rifyn Nadolig yr Haclediad! Byddwn ni’n rhoi sbin tymhorol ar newyddion y mis – Grantiau technoleg y Cynulliad, gêm Gymraeg ar Steam, brwydro’r Xbox vs PS4 a llawer mwy. Bydd Bryn yn deud ei jôcs gorau ac yn awgrymu gemau bwrdd (www hw!), Iestyn yn rhedeg allan o wisgi a Sioned yn trio… Parhau i ddarllen Haclediad #33: Ho-ho-haclediad

Haclediad #32: Pwdin Mwyar duon ac iOS7 Afal

Yn Haclediad 32 bydd Iestyn, Sioned a Bryn yn trafod gwerthu cwmni Blackberry am llai na mae Apple yn neud mewn blwyddyn, update diweddaraf iFfôn a Bryn yn ymuno â byd Android. Wrth gwrs bydd hefyd y cyfuniad gorau o sgwrs a nonsans i’ch clustiau – mwynhewch!

Haclediad #31: Anturiaethau 4G a HalfArsedCymru

Wedi rhifyn byw’r eisteddfod, mae’r criw nôl yng Nghaerdydd, Llundain a Chaernarfon am rifyn diweddara’r haclediad! Bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod 4G yn cyrraedd, mwy o esiamplau o brosiectau a gwefannau Half Arsed Cymru, a bydd Bryn Blin yn ailymuno efo’r criw yn achlysurol – ond rhaid gwrando i weld pam! 4G Buers… Parhau i ddarllen Haclediad #31: Anturiaethau 4G a HalfArsedCymru

Haclediad #30: Yn Fyw o’r M@es

Helo a chroeso i rhifyn arbenig o’r Haclediad yn fyw o faes yr Eisteddfod. Yn anffodus roedd Sioned methu bod efo ni, ond yn lwcus doedd dim alcohol, felly cadwodd Bryn a fina eithaf call. Rydym yn sgwrsio efo Kim Jones o Technocamps sydd yn helpu dysgu plant am gyfrifiaduron, robots a pob fathau o… Parhau i ddarllen Haclediad #30: Yn Fyw o’r M@es

Haclediad #29: Yr Un Preifat

Y tro yma ar yr Haclediad, yn ogystal â thrafod pa cocktail yn union mae Iestyn wedi paratoi, a pha ‘vintage’ o chwisgi sy’ gan Bryn; byddwn ni’n edrych ar sefyllfa band eang Cymru, cymryd cipolwg ar wythnos ddigidol Caerdydd a holi beth yn union mae chwibanu Edward Snowden yn golygu i ni. Mae hefyd… Parhau i ddarllen Haclediad #29: Yr Un Preifat

Haclediad #28: Cynhadledd-I/O

Henffych! Dyma i chi rifyn cynta’r “hâf” o’r Haclediad. Bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn sôn am gynhadleddau di-ri: cynhadledd Creadigidol S4C oedd yn ceisio cael gafael ar ddyfodol digidol ein sianel genedlaethol ac yna cynhadledd Google I/O, gyda yna lwyth o bethau newydd i’w gweld gan y cewri chwilota a hysbysebu, wel, heblaw am… Parhau i ddarllen Haclediad #28: Cynhadledd-I/O