Haclediad #26: Yr un byw na fu

Ar yr Haclediad diweddaraf i gnesu‘ch cocyls bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod digwyddiad Hacio’r Iaith ’13 gyda’u gwestai arbennig Gareth Morlais. Bydd y criw hefyd yn cymryd cipolwg ar wasanaeth fideo byr newydd Twitter, Vine, ac yn troi cadw’n heini yn gêm gyda profiadau Bryn efo’i Nike Fuel band. Hyn oll, a mwy… Parhau i ddarllen Haclediad #26: Yr un byw na fu

Haclediad #25: Hwyl (teci) yr Ŵyl 2012

Yn ôl yng nghôl yr Haclediad y tro hwn mae Sioned, a bydd Bryn ac Iestyn yn ei chroesawu nôl efo cipolwg ar Windows 8 – y dyfodol neu ddymchwel i Microsoft? Hefyd byddwn yn sbïo dros aps newydd geiriadur a bysellfwrdd Cymreig ffab i’ch ffonau a rhestr Nadolig yr Hacledwyr, be da ni am… Parhau i ddarllen Haclediad #25: Hwyl (teci) yr Ŵyl 2012

Haclediad #24: Yr un efo Elliw!

Mae’n ddrwg gennym am y tawelwch sydd wedi bod, ond mae rhai ohonom wedi bod i ffwrdd yn gwneud pethau pwysicach. Felly dyma ei’n Haclediad cyntaf heb Sioned. Roedd yn ormod o risg gadael Bryn a fi ar ben eu hunain i fwydro, felly rhowch croeso mawr cynnes i Elliw Gwawr — sy’n trio ei… Parhau i ddarllen Haclediad #24: Yr un efo Elliw!

Haclediad #23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012

Rhifyn arbennig O’r diwedd, anrheg hafaidd i’ch clustiau – rhifyn byw arbennig yr Haclediad o faes Eisteddfod y Fro 2012. Daeth miloedd[1] ohonoch yno i wylio Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod popeth o gysylltiadau digidol y maes ac ap y brifwyl hyd at bosibiliadau 4G mewn cae yn Ninbych flwyddyn nesa. Hefyd, mae cyfle… Parhau i ddarllen Haclediad #23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012

Haclediad #22: Yr un 7 modfedd

Yn Haclediad 22 (yr un olaf cyn Hacio’r Iaith yn yr eisteddfod), byddwn ni’n busnesa ar ddatblygiadau tech Google yn eu cynhadledd I/O, pwt ar S4C yn rhoi’r gorau iddi ar clirlun, tabled newydd sgleiniog y Microsoft surface – ac wrth gwrs edrych mlaen i’r Haclediad byw yng ngŵyl dechnoleg yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg.… Parhau i ddarllen Haclediad #22: Yr un 7 modfedd

Haclediad #21: Hei Mistar Urdd!

Mae’r haclediad yn troi’n 21 y mis yma, ond does dim arlliw o dyfu fyny yn perthyn i’r rhaglen, diolch byth! Tro hwn byddwn ni’n trafod Gmail Cymraeg yn cyrraedd wedi siwrne hir, cipio rhagolwg ar Windows 8, aps eisteddfod yr Urdd a rhwystredigaethau di-ri diweddaru Android. Hyn oll a llwyth o fwydro penigamp gydag… Parhau i ddarllen Haclediad #21: Hei Mistar Urdd!

Haclediad #20: Yr un am y Ffôns a'r Porn

Amser maith yn ôl, mewn bydysawd pell i ffwrdd (well, Dydd Gwener ddiwethaf), ddaru ni (Sioned, Iestyn a Bryn) ymgasglu i drafod y digwyddiadau yn y byd technegol… dan drafodaeth oedd Ffôn newydd Samsung, sydd ddim mor hot ‘na ny. Cynlluniau’r llywodraeth i flocio porn sa bod ni’n gofyn amdano a thomen o podlediadau a… Parhau i ddarllen Haclediad #20: Yr un am y Ffôns a'r Porn

Haclediad #19: Yr un efo’r iPads galore (a lot mwy yn amlwg!)

Da ni’n agosáu at yr 20 fawr, felly tan hynna mwynhewch rifyn eclectig 19 o’r Haclediad! Mis ‘ma bydd Sioned (@llef) Bryn (@bryns) ac Iestyn (@iestynx) yn trafod yr iPad 3 gan fod Bryn wedi cael un neu ddau, gwrandewch am y stori sut yn union ddigwyddodd hynny. Cynlluniau ysbïo’r llywodraeth, a pha mor breifat… Parhau i ddarllen Haclediad #19: Yr un efo’r iPads galore (a lot mwy yn amlwg!)

Haclediad #18: “Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mai Hacledio”

Helo wrandawyr! Ar yr Haclediad mis yma – bydd Bryn, Iestyn a SIoned yn trafod sut aeth Hacio’r Iaith 2012 (ardderchog, wrth gwrs), dyfodiad Sianel 62 i’ch dyfeisiau bob nos Sul (darlledir y chwyldro arlein?), deddfwriaeth ACTA (yda ni am gael ein cicio oddiar y we, eto?) dim .cymru a sibrydion iPad 3, ffiw! Yng… Parhau i ddarllen Haclediad #18: “Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mai Hacledio”