Mae rhagor o wybodaeth am LibreOffice ar wefan Cymraeg LibreOffice. Diolch i Aled Powell am y trosleisio.
Awdur: Rhos Prys
Gwefan Cymraeg LibreOffice – cy.libreoffice.org
LibreOffice yw un o brif gasgliadau offer swyddfa sydd ar gael ar gyfer cyfrifiaduron. Mae’r casgliad yn cynnwys yr holl offer angenrheidiol ar gyfer gwaith swyddfa: prosesydd geiriau, taenlen, rhaglenni cyflwyno, lluniadu a chronfa ddata, ac ati. Mae’r holl offer pwerus yma ar gael am ddim, ac yn Gymraeg drwy gyfrwng LibreOffice. Mae’n bosib eich… Parhau i ddarllen Gwefan Cymraeg LibreOffice – cy.libreoffice.org
Diwrnod Preifatrwydd Data
Wel, mae heddiw’n ddiwrnod preifatrwydd data ac mae Mozilla wedi darparu rhywfaint o her ar ein cyfer i amlygu faint o breifatrwydd sydd gennym ar y we. Mae’r ddolen gyntaf yn Saesneg a’r ail yn Gymraeg. Private Eye – mae hwn yn arbennig o ddifyr gyda gwefannau fel y Guardian, Telegraph, ac ati. Deall Preifatrwydd… Parhau i ddarllen Diwrnod Preifatrwydd Data
Copïo yn Firefox 35
Mae’n bosib eich bod wedi sylwi ar wall sydd wedi dod i’r amlwg yn y cyfieithiad Cymraeg o Firefox 35. Mae’r gwall yn codi wrth i chi ddefnyddio’r cyfuniad Ctrl/Cmd a C er mwyn copïo darn o destun yn y ffenestr. Yn lle gwneud hynny mae’r copïo’r dudalen gyfan. Mae modd defnyddio’r dull canlynol i… Parhau i ddarllen Copïo yn Firefox 35
WordPress 4.1 Cymraeg ar gael nawr
Mae’r fersiwn diweddaraf ar gael un ai drwy fwrdd gwaith eich gwefan fydd yn eich annog i ddiweddaru neu o wefan Cymraeg WordPress. Mae WordPress yn dilyn cylch ryddhau fersiwn newydd bod 3-4 mis ac felly’n cynnig cyfle i gynnig nodweddion newydd yn ogystal â chynyddu’r diogelwch. Cofiwch ddiweddaru i’r fersiwn diweddaraf er mwyn sicrhau… Parhau i ddarllen WordPress 4.1 Cymraeg ar gael nawr
Siopa Dolig? Beth am dabled Windows Cymraeg am £99?
Eisiau prynu anrheg i chi eich hun neu i rhywun sydd a diddordeb mewn gadgets neu dechnoleg o rhyw fath ac yn benboeth am y Gymraeg, wel dyma i chi eich anrhegion delfrydol. Mae pawb eisiau tabledi neu gliniaduron ac mae Microsoft nawr yn cefnogi eu darparwyr i lansio rhai am brisiau deniadol iawn ac… Parhau i ddarllen Siopa Dolig? Beth am dabled Windows Cymraeg am £99?
Linux Mint 17.1 wedi ei ryddhau yn y Gymraeg
Dros y penwythnos ryddhawyd rhifyn newydd o un fersiynnau mwyaf poblogaidd o Linux, sef Linux Mint. Unwaith eto mae rhyngwyneb Linux Mint ar gael yn Gymraeg. Gyda bod y dosbarthiad wedi ei seilio ar Ubuntu mae’n cynnwys y deunydd Cymraeg o’r dosbarthiad hwnnw hefyd. Diolch i’r criw fu’n cyfrannu at y cyfieithiad Cymraeg
Geiriadur Bangor – geiriadur.bangor.ac.uk
Erbyn hyn mae Geiriadur y BBC nôl yn fyw dan ei enw newydd Geiriadur Bangor. Mae wedi’i letya ar wefan Prifysgol Bangor ar http://geiriadur.bangor.ac.uk/. Cyfuniad yw e mewn gwirionedd o eiriadur cyffredinol Cysgair, sy’n rhoi geirfa gyffredin y Gymraeg a’r Saesneg, a Y Termiadur Addysg, sy’n rhoi termau wedi’u safoni ar gyfer addysg ysgol a… Parhau i ddarllen Geiriadur Bangor – geiriadur.bangor.ac.uk
Firefox Datblygwyr\Firefox Developer Edition
Mae Mozilla wedi dewis ei ddiwrnod pen-blwydd yn 10 oed i lansio porwr newydd yn benodol ar gyfer datblygwyr – Firefox Developer Edition. Mae’r porwr ar gael o wefan Firefox Developer Edition yn Gymraeg. Yn y gorffennol, mae Firefox wedi cynnwys offer ar gyfer datblygwyr ond mae hwn yn cynnwys popeth fydd ei angen ar… Parhau i ddarllen Firefox Datblygwyr\Firefox Developer Edition
Pen-blwydd Hapus Firefox yn 10 Oed Heddiw!
Mae’r porwr gwe Firefox yn dathlu deg mlynedd ers ei sefydlu fel pecyn annibynnol o’r casgliad o raglenni crëwyd gan Netscape. Mae’r rhaglen wedi dod yn boblogaidd iawn ac yn cystadlu gydag Internet Explorer, Chrome ac Opera am le yn y farchnad porwyr gwe. Un o gryfderau Firefox yw ei gymuned o ddatblygwyr gwirfoddol sydd… Parhau i ddarllen Pen-blwydd Hapus Firefox yn 10 Oed Heddiw!