Cyflwynodd Patrick Robinson APIs y Ganolfan Technolegau Iaith.
(Demo cyflym hawdd o’r llais robot Cymraeg yma!)
API (Application Programming Interface) ydy ffordd o gael dy raglen i siarad gyda rhaglen arall er mwyn manteisio ar ddata a gwasanaethau.
Siaradodd Patrick am y system testun-i-lais (un o fy hoff bethau ar hyn o bryd!) a Cysill, y gwirydd gramadeg. Er enghraifft gallech chi ddefnyddio Cysill o fewn wasanaeth arall neu greu gêm, teclyn, gwaith celf, neu declyn i bobl anabl gyda’r system testun-i-lais.
Mae’n weddol hawdd i ddechrau achos mae demos felly does dim rhaid sgwennu unrhyw god i gael profiad syml.
Sut i ddechrau:
- creu cyfrif
- cael allwedd API personol
- chwarae gydag APIs, e.e. demo testun i lais robot trwy god ar Github
- er enghraifft, lawrlwytha’r tudalen HTML yma i chwarae gyda’r llais
Diolch i Patrick am wneud y sesiwn.
Di gwirioni’n lân ar y dechnoleg testun i lais, arloesol, a mor flin mod i methu dod!