WordPress yw’r system rheoli cynnwys sydd yn rhedeg lot o wefannau o gwmpas y byd gan gynnwys Hacio’r Iaith. Mae fersiwn diweddaraf bellach, sef 3.7.1.
Canllaw i WordPress 3.7.1.
Os ydych chi’n defnyddio WordPress.com yn Gymraeg (y fersiwn dotcom yw’r fersiwn cyflym a haws) mae popeth yn awtomatig. Does dim rhaid i chi wneud dim byd. Joiwch! Gyda llaw, dyma sut i newid eich iaith mewn WordPress.com
Os ydych chi’n rhedeg y cod o WordPress.org, ewch i WordPress Cymraeg a lawrlwythwch y cod fel zip (neu .tar.gz). Mae’r ffeiliau pwysig i gyd yn y ffolder wp-content/languages ond mwy na thebyg byddwch chi eisiau diweddaru WordPress ei hun yn ogystal â’r ffeiliau iaith.
Os ydych chi’n hoff o Subversion, fel arall rydych chi’n gallu lawrlwytho nhw trwy SVN yma.
Os ydych chi am greu gwefan Gymraeg gyda WordPress.org, ewch i WordPress Cymraeg a lawrlwythwch y feddalwedd lawn. Bydd rhaid i chi gosod y cod ar letya, cyfieirio enw parth at y lletya ayyb. (Oes galw am ganllaw o’i fath?)
Diolch
Diolch o galon i Rhos Prys am gyflawni’r cyfieithiad o WordPress. Does dim modd crynhoi faint mae Rhos fel cyfieithwr gwirfoddol (ac eraill) wedi gwneud i siaradwyr Cymraeg ar y we.
Eiliaf y diolch i Rhos. Oes na ffeil iaith .mo ar ben ei hun? Faint o’r cyfieithiad sydd yn ‘gyts’ y côd fel petai? Os dwi’n rhoi ffeil .mo dyw popeth ddim yn cyfieithu – ddyla fod wneud?
Y rheswm dwi’n gofyn ydi, achos dwi’n defnyddio automatic updates ar y gweinydd i arbed gwaith i fi, ond ydi hyn am ddileu unrhyw gyfieithiad Cymraeg bob tro ma’n diweddaru’r system WordPress?
Cer i’r ddolen SVN uchod am y ffeiliau .mo – mae mwy nag un.
Dw i’n credu bod diweddariadau awtomatig yn dileu ffeiliau iaith yn anffodus. Gwnaf i drio cadarnhau cyn hir.
Oes na ffordd gwell na WPML dyddia yma i greu gwefan dwyieuthog?
Ie, diolch yn fawr i Rhos!
Iestyn – mae’r ategyn polylang (http://wordpress.org/plugins/polylang/) wedi bod yn eitha llwyddiannus i fi, ac yn llawer llai o waith na gosod WPML; llai o lwyth ar y gweinydd hefyd hyd gwela i.
Ymhlith y nodweddion mae’n honni ei fod yn diweddaru ffeiliau iaith yn awtomatig, felly falle bod hwnna’n ateb posib i gwestiwn Rhodri hefyd.
@Iestyn Mae ‘na system cyfieithu cynnwys newydd i’w gael o’r enw Babble. Dydi o ddim mor aeddfed a WPML felly mae ganddo dipyn o ffordd i fynd nes ei fod o’n dal i fyny gyda WPML, ond mae’r rhyngwyneb a’r llif gwaith yn llawer mwy hwylus na WPML. Mae Babble yn hollol agored, ac mae’r côd i’w gael ar GitHub. Werth cadw golwg ar hwn dwi’n meddwl!
Mae Polylang ar gael hefyd.
Mae WPML wedi bod yn iawn i mi, oes gwendidau yn dy brofiad di?
Dw i ar fin dechrau datblygu amlieithrwydd syml ar wefan i gwmni theatr yn Llundain felly gad i mi wybod hefyd! Neu gwnaf i adael i ti wybod.
Wps, dw i newydd cymeradwyo sylwadau Rhys ac Emyr. Gwnaf i drio nhw te.
Ella bod Polylang yn opsiwn, ond dwi jest yn trio cadw pethau mor syml a phosib. Ma plugins gwael wedi achosi problemau hacio a sbam trafferthus i fi’n barod felly sa well gen i beidio defnyddio unrhyw rai heblaw am rai Automattic os oes modd. Dwi’n gofyn weithia – ydi WordPress werth y drafferth? Sa’n neis sa nhw’n gallu gwneud fersiwn .org superslim ohono ar gyfer blogwyr sydd jest isio gwefan efo dewis neis o themau deniadol, saff rhag sbam, cyflym a delio gyda chyfryngau’n dda. Ar hyn o bryd dwi’n cytuno efo’r boi ma – ma’n eitha bloated ar gyfer blogio.
Maent wedi mynd lawr y llwybr ‘gwefan go iawn’ ers tipyn. Mae gwarchodaeth gallu bod yn boen hefyd. Dw i’n cytuno bod gormod o opsiynau/peryglon i’r rhai sydd eisiau cynnal blog vanilla. Dyma pam dw i’n argymell WordPress.com iddynt.
Mae cyfieithiad Rhos Prys o fersiwn 3.8 ar y ffordd yr wythnos hon!