Ydy unrhyw wedi gwneud cyfieithiad o BuddyPress (yr ategyn WordPress) i’r Gymraeg?
Rhannwch y ffeil .po os oes fersiwn os gwelwch yn dda, hyd yn oed rhywbeth anghyflawn! O’n i eisiau gofyn cyn bwrw ymlaen gyda fe.
Annhebyg bydd gyda fi amser/egni/termau i wneud y cwbl lot ond dw i’n bwriadu cyfieithu’r pethau ar y pen blaen a phethau amlwg.
(Unrhyw un sefydliadol eisiau ariannu pobl proffesiynol – yn hytrach na myfi – i wneud pethau fel hyn er mwyn cyfrannu i’r we Gymraeg…?)
Dw i’n cymryd taw ‘nac ydy’ yw’r ymateb. Mwy yn fuan. Yn y cyfamser gadewch i mi wybod os ydych chi eisiau helpu.
Na, heb glywed am unrhyw gyfieithiad ohono. Erioed wedi defnyddio fe fy hun – mi fyddai’n ddiddorol gweld e mewn defnydd ar gyfer rhywbeth Cymraeg.
Bydd angen syniad da. Beth am rwydwaith o greadigrwydd gyda delweddau, jôcs gweledol, memes ayyb?
O ran fy nefnydd yr wythnos hon dw i’n gwneud prosiect peilot gyda’r Sefydliad Materion Cymreig ond rydym ni’n cadw’r wefan yn gaeedig y tro yma.
Dyma’r ffeil pot: http://svn.buddypress.org/trunk/bp-languages/buddypress.pot
Mi fuaswn yn argymell i rywun dechrau prosiect y cyfieithiad ar Transifex.com. Mae ychydig o brosiectau cyfieithu eraill yno a dw i’n eithaf hapus gyda’r system.
Daeth unrhywbeth o hyn yn y diwedd… buaswn i yn lecio defnyddio BuddyPress ar wefan led-gymdeithasol yn Gymraeg… Hapus iawn helpu ble y gallaf!