Mae Kevin Donnelly wedi dadansoddi’r Cofnod er mwyn cyfrif pa ganran o sylwadau ac areithiau a anerchwyd yn Gymraeg. Y ganran yn y trydydd Cynulliad? Dim ond 9.9%.
Mae rhagor o wybodaeth yn ei gofnod blog yn ogystal â’i gorpws a pheriant chwilio o’r enw Kynulliad3.
Pam mae’r ganran mor isel? Oes gwleidydd Cymraeg o gwmpas sydd yn fodlon esbonio – gan gynnwys y Gweinidog newydd dros y Gymraeg efallai? Ydy’r aelodau sy’n medru’r Gymraeg yn rhy awyddus i weld eu clipiau byrion yn Saesneg ar Wales Today gyda’r nos? Gofynnwch eich Aelod Cynulliad efallai.
‘Mond yn y gyd-destun o faint o aelodau sy’n siarad Gymraeg (ac, mwy bwysig, faint sy’n teimlo’n gyfforddus yn yr iaith) y gallen ni ddadansoddi’r ffigur, cofiwch. Os bydd aelodau rhugl yn y Gymraeg yn dewis siarad yn Saesneg, bydd hynny’n broblem go iawn. Gobeithio wneud yr un peth ryw dro am Kynulliad2 a’r presennol Kynulliad4, ac wedyn bydd ffigyrau cymharol ar gael ….