Papurau Newydd Cymru Arlein o 1844 i 1910… rhyfedd, cynhwysfawr, penigamp

Winesniffing

Mae rhai o bobl gan gynnwys mynychwyr Hacathon a Hacio’r Iaith eisoes wedi cael cip ar wefan newydd Llyfrgell Gen, sef Papurau Newydd Cymru Arlein. Maent newydd lansio’r archif o bapurau (Cymraeg a Saesneg) yn swyddogol gyda ffrwydrad o ganapés, mwy o deitlau (a thrwyddedau hawlfraint penodol)!

Ewch yn llu i:

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk

Dyma fy nhrydariadau o’r digwyddiad neithiwr.

Mae’r cyfnod o’r wasg ffyniannus Gymreig yn berthnasol iawn i ni yn Yr Oes Ddigidol ac mae gwersi i bobl sydd yn rhedeg cyfryngau annibynnol. Jyst paid â disgwyl manylion ar hyn o bryd achos dw i gorfod mynd. 🙂

cymro-cadarn

Childsqueereye

2 sylw

  1. Esiamplau gwych o’r ‘rhyfedd’ fan’na gen ti!

    Mae’r ychydig iawn dw i wedi eu darllen hyd yma wedi bod yn ddifyr. Gan bod cryn dipyn o gam-sganio (sydd i’w ddisgwyl) ar sawl erthygl byddai rhoi’r gallu i’r cyhoedd dorfoli’r gwaith cywiro yn gallu bod yn ddefnyddiol (a falle hwyl os oes sgorio/gwobrwyo). Wedi’r cyfan, bydd mwy o werth masnachol (neu arall) wedyn os yw’r testun yn gywir.

    Wrth gwrs byddai’n rhaid bod a rhyw ddull o gymedroli, ond falle gelli’r cael system ble mae’n rhaid i defnyddwyr eraill a/neu gymedrolwr gymeradwyo sampl go dda o gywiriadu unhryw unigolyn cyn iddynt ddod yfynd yn fyw.

Mae'r sylwadau wedi cau.