Ok, yn ysbryd agored y digwyddiad dwi am drio sgwennu rhai cofnodion dros yr wythnos nesaf ar sut drefnwyd Hacio’r Iaith.
Yn gyntaf dwi jest am greu rhestr o’r teclynnau, meddalwedd neu wasanaethau ddefnydion ni ar gyfer cydweithio i dynnu’r elfennau gwahanol at eu gilydd. Croeso i chi ychwanegu at y rhestr os dwi wedi anghofio unrhywbeth.
- Twitter – ar gyfer hyrwyddo, anfon negeseuon cyflym, defnyddio’r dorf i’n helpu (cafwyd dwy restr fawr o ebyst cysylltiadau y wasg drwy holi’r dorf)
- WordPress.org (thema P2 – fersiwn Gymraeg ar gael yma!) – defnyddiwyd WP.org i greu gwefan swyddogol y digwyddiad (hon, ‘lly). Roedd hwn yn flog arferol i ddechrau, ond cyn y digwyddiad newidiodd Carl y thema i un P2 oedd yn ein galluogi ni i’w agor fyny i fod yn flog cyhoeddus ar gyfer yr holl fynychwyr eraill.
- DocuWiki – hollol elfennol i’r trefnu. Defnyddiwyd sawl tudalen ar hedyn.net i drafod syniadau, i roi gwybodaeth, i gofrestru, ac i gyd-drefnu elfennau gwahanol.
- Google Docs – ar gyfer ysgrifennu’r datganiad i’r wasg a’r erthygl WalesHome ar y cyd; ac ar gyfer cyfieithu ffeil .po y thema WordPress P2 ar y cyd
- Google Wave – ar gyfer trafod syniadau a threfniadau dechreuol
- Twapperkeepr – ar gyfer archifo trydar oedd yn defnyddio’r tag #haciaith. Mae archif Twitter yn ddiwerth, ac mae posib allforio’r trydar fel pdf gyda hwn.
- Flickr – rhannu lluniau a delweddau cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad
- Yousendit – i rannu ffeiliau sain/fideo dan 100MB dros ebost
- Dropbox – i rannu ffeiliau mawr (dylunio a fideo). Rhannwyd un ffolder rhwng 5 person. Mae’n dal hyd at 2GB.
- Odeo – i chwarae mp3s o recordiadau sesiynau
- Facebook – ar gyfer hyrwyddo
- Audacity – i dorri pen a chynffon recordiadau sain mp3
- Final Cut Pro – mi fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer golygu’r fideo.
- YouTube – i lanlwytho cyfweliadau byrion o’r digwyddiad
- Skype – i recordio’r mini-bodlediad
- Ustream – i ddarlledu’r podlediad byw
- Boinx.tv – i gymysgu dwy sianel fideo a thrac sain y podlediad byw.
- SoundCloud – er mwyn llwytho mp3s o sesiynau’r digwyddiad (gallwch lwytho hyd at 120 munud am ddim)
- VisibleTweets – er mwyn gwneud visualisation cŵl o tweets #haciaith ar sgrin fawr yn y cyntedd
- Gmail (un personol i fi) – mae system Gmail yn trefnu ebyst yn ôl sgwrs, yn hytrach nac yn ôl amser derbyn yr ebost unigol. Mae hyn yn angenrheidiol i fi pan yn delio gyda sgwrs hir dros ebost gyda nifer fawr o bobol. (Gyda llaw gallwch chi wneud i Outlook roi ebyst mewn edefynnau fel Gmail hefyd.)
- Remember The Milk (un personol i fi) – gwasanaeth rhestr “To Do”. Yn anffodus mae angen talu ffi blynyddol i gael o i syncio gyda iPhone, ond mae’n syncio gyda rhyngwyneb Gmail am ddim.
Mae’n anhygoel faint o dechnolegau gwahanol mae rhywun yn ei ddefnyddio pan ti’n cyfri popeth. Oes rhai eraill dwi di anghofio?
Cofnod gwych!
Twitter – Dylen ni meddwl am proffiliau agor yn yr iaith Gymraeg.
Cleientiaid Twitter? – Seesmic, Tweetdeck, ayyb
WordPress.org + P2 == Blogio gyflym iawn. Beth am blogiau P2 am bynciau eraill? Ffilmiau, cerddoriaeth… Syniad am ddim – pobol? Ewch!
DokuWiki – dw i’n chwilio am bobol i helpu gyda chyfieithiad… Dylen ni cael rhyngwyneb Hedyn yng Nghymraeg (yn Saesneg ar hyn o bryd). Byddan ni rhyddhau’r cyfieithiad i bawb am wiciau eraill wrth gwrs.
Google Docs – caru
Google Wave – casáu! (gyda fersiwn ar hyn o bryd)
Thunderbird – fy hoff raglen ebost (well na Outlook!). Gan gymuned a Mozilla hefyd. Fel Firefox am ebost.
Skype – mae’n bosib gwneud negeseua sydyn yna – am drafodaeth / cyfweliadau. Dyna ni, cofnod blog gyflym. Syniad: beth am sgwrs negeseua sydyn misol am Hacio’r Iaith? Dyn ni’n gallu cyhoeddi’r rhannau gorau yma neu ar Metastwnsh. Fel podlediad OND ti’n gallu chwilio am eiriau ar Google…
Gyda llaw, dyn ni’n gallu trafod pob teclyn yma yn y cyd-destun yr iaith Cymraeg – fel trafodaethau agored.
Ro’n i’n licio’r ffordd roedd y trydar yn cael ei arddangos ar y sgrin deledu yn y cyntedd?
Pa declyn gafodd ei ddefnyddio i wneud hynny?
O ie, Iestyn ddaru argymell hwnna: http://visibletweets.com/
Wedi ei ychwanegu at y rhestr yn ogystal â SoundCloud