Sgwennodd Carl gofnod llynedd oedd yn meddwl am ba waith Cymraeg oedd wedi dod i’r parth cyhoeddus. Yn y Saesneg eleni mae Virginia Woolf a James Joyce.
Yn ôl y Bywgraffiadur Ar-lein mae gwaith y personau Cymreig canlynol nawr yn rhydd o hawlfraint:
- DAVIES, Syr HENRY WALFORD ( 1869 – 1941 ), cerddor
- DAVIES, WILLIAM LEWIS ( 1896 – 1941 ), gwyddonydd ac arbenigwr ar astudio llaeth
- EDWARDS, DAVID MIALL ( 1873 – 1941 ), diwinydd a llenor
- EVANS, EVAN KERI ( 1860 – 1941 ) gweinidog gyda’r Annibynwyr
- EVANS, JOHN YOUNG ( 1865 – 1941 ), gweinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ac athro yng ngholeg Trefeca ac wedi hynny yng ngholeg diwinyddol, Aberystwyth
- FYNES-CLINTON, OSBERT HENRY ( 1869 – 1941 ), athro Ffrangeg yng ngholeg y Gogledd, Bangor
- GOODWIN, GERAINT ( 1903 – 1941 ), awdur
- HUGHES, GRIFFITH WILLIAM ( 1861 – 1941 ), cyfrifydd a cherddor
- IRBY, GEORGE FLORANCE, 6ed barwn BOSTON ( 1860 – 1941 ), tirfeddiannwr a gwyddonydd
- JONES, DANIEL EVAN ( 1860 – 1941 ), awdur
- JONES, EDMUND DAVID ( 1869 – 1941 ), ysgolfeistr ac awdur
- JONES, THOMAS OWEN (‘ Gwynfor ’, 1875 – 1941 ), llyfrgellydd, dramodydd, actor a chynhyrchydd
- NORTH, HERBERT LUCK , ( 1871 – 1941 ), pensaer
- OWEN, Syr DAVID JOHN ( 1874 – 1941 ), rheolwr dociau
- ROWLAND, Syr JOHN ( 1877 – 1941 ), gwas sifil ,
- THOMAS, GEORGE ISAAC (‘ Arfryn ’ 1895 – 1941 ), cerddor a chyfansoddwr
- THOMAS, JOHN EVAN ( 1884 – 1941 ), athro a llenor
- WADE, GEORGE WOOSUNG ( 1858 – 1941 ), clerigwr, athro, ac awdur
Mae Wicipedia hefyd yn cyfeirio at ambell un o’r rhain.
Dwi heb fod trwy’r bywgraffiadau eto i weld a oes unrhywbeth diddorol, ond dwi’n siwr bod ambell beth yno fyddai o werth ar gyfer ei ail-ddefnyddio / ail-gymysgu.
Sgwn i pa gynhyrchwyr ffilmiau fu farw ym 1941?
Siawns bod rhywbeth o ddefnydd yna.
Mae Wicipedia hefyd yn cyfeirio at ambell un o’r rhain.
Drwg y Wicipedia, yn enwedig yr un Cymraeg, ydy chi’n dibynnu ar pobl yn categorieddio’n gywir/cyflawn. Fel mae’n digwydd mae Categori:Marwolaethau 1941 yn fwy cynhwysfawr na’r adran marwolaethau ar erthygl 1941. Fel arall mae hi yn 1942. Mae’n werth edrych ar y Wikipedia Saesneg hefyd, mae ganddynt dudalennau/erthyglau bob yn flwyddyn am Gymru’n unig. Gweler erthygl 1941 in Wales.
Mae Alwyn ap Huw (Hen Rech Flin) newydd flogio am ddigideiddio ei hen lyfrau hefyd. Prosiect ar y cyd falle gyda rhywrai yma?
Awduron marw: un o’r buddsoddiadau mwyaf yn yr iaith Gymraeg.
Mae chync eitha mawr o ail bennod fy PhD (sydd ar gael dan CC) yn trafod syniadaeth D. Miall Edwards. Mae ei lyfr Iaith a Diwylliant yn ddiddorol (er nad ydw i’n cytuno a fe) byddai cael hwnna yn y parth cyhoeddus yn dda. Does gen i ddim copi personol i gynnig sganio yn anffodus – copi llyfrgell o ni’n defnyddio pan yn gwneud yr ymchwil. Mae’n lyfr gweddol brin dwi’n meddwl.
Sdwff Edmund Jones yn swnio’n ddiddorol, beirniadaeth gelfyddydol a deunydd ar gyfer plant. Thomas Owen Jones hefyd.
[Gyda llaw, ma na lwythi o ffilmiau Parth cyhoeddus / creative commons ar Archive.org gan gynnwys Horror Express, gyda Peter Cushing, Christohper Lee a Telly Savalas! Digon i gadw ailgymysgwr yn hapus am flynyddoedd]
Mae The Welsh Vocabulary of the Bangor District gan Fynes Clinton yn glasur o lyfr am dafodiaeth a datblygiad iaith
Alwyn, dw i wedi ffeindio’r llyfr mewn sawl fformat yma:
The Welsh Vocabulary of the Bangor District gan Fynes Clinton
gan gynnwys PDF 46Mb (cymryd tipyn o amser i lwytho felly cadw ffeil yn well)