Addysg: Prifysgol Stanford yn rhyddhau deunyddiau cyrsiau dan CC

Cyrsiau technoleg, cyfrifiadureg a pheirianneg ar y we – rhydd (ac am ddim)
Pethau fel nodiadau, fideos, awdio, ‘handouts’
http://see.stanford.edu/see/courses.aspx
Dw i newydd ffeindio’r stwff yma (dw i ddim yn gwybod pryd naethon nhw ddechrau rhyddhau stwff yn rhydd).

Maen nhw wedi dewis Creative Commons-BY sy’n rhydd iawn. Mewn geiriau eraill, mae unrhyw sefydliad, ysgol, cwmni, llyfr, person (ti neu fi) yn gallu eu ailddefnyddio nhw. Does dim lot o amodau ond maen nhw yn gofyn am credit i Stanford (BY yn golygu ‘attribution’) fel amod.

Wrth gwrs mae lot o brifysgolion yn licio cadw pethau yn ecscliwsif ac yn nerfus am rhannu stwff. “Beth am y gystadleuaeth a chopio?” “Rydyn ni’n gwerthu’r nodiadau, ble fydd ein busnes os fyddan ni’n rhannu?”

Wel dyma’r manteision:

  • mae pob ailddefnydd yn rhoi credit ac yn cyfrannu at enw da Stanford
  • presennoldeb Stanford o gwmpas y byd
  • maen nhw yn annog rhannu o wybodaeth
  • hygyrch i bobol o wledydd tlawd, yn Saesneg neu cyfieithiadau
  • mae’n haws i’r myfyrwyr i ffeindio’r nodiadau ar-lein ar y we agored yn hytrach na chofio cyfrinair ayyb

Dyma beth sydd dal yn wir:

  • mae myfyrwyr dal eisiau mynd i Stanford er mwyn cael gradd o fri gyda phrifysgol o fri
  • mae Stanford yn gwerthu’r profiad – amser gydag athrawon proffesiynol a chyd-myfyrwyr
  • mae Stanford yn gwerthu mynediad i offer
  • ti’n methu copio’r profiad Stanford, mae’n unigryw

Dw i wedi bod yn meddwl am Y Porth, sef yr adran ar-lein o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd e’n wych os maen nhw yn gallu rhannu deunyddiau cyrsiau yn Gymraeg ar y we agored dan drwydded rhydd fel Creative Commons. Pam lai?

Mae manteision eraill i’r Gymraeg:

  • helpu safoni termau arbennig
  • mwy o gynnwys Cymraeg ar y we
  • mwy o werth o’r buddsodiad
  • dangos bywyd y sefydliad a chyfleoedd bosib i gyd-weithio gyda sector preifat / byd tu allan
  • datblygu addysg Gymraeg a dyfodol yr iaith fel ‘cymuned’
  • DIWEDDARIAD 19/08/2011: gweler pwynt Rhys yn y sylwadau am ddangos enghreifftiau da o ddefnydd o Gymraeg mewn addysg

DIWEDDARIAD 24/08/2011: Sgwrs da iawn yn y sylwadau. Newydd ffeindio gwerslyfrau agored o bob math – yn Saesneg wrth gwrs

13 sylw

  1. Rhywbeth arall, sy’n berthnsol i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw y gallai fod o helo yn darbwyllo darpar fyfyrwyr i’r CCC bod deunydd dysgu Cymraeg yn safonol ac yn bwysicach fyth yn ddealladwy.

    Pan roeddwn i’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor (1996-1999), ro’n i’n ffodus iawn i allu dilyn fy ngradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd yr adran (hen adran o’r Coleg Normal gynt) yn cynnig pop un o’u pedwar neu bump cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Beth synnodd fi oedd, bod y myfyrwyr o Arfon a Phenllyn (Cymry Cymraeg wrth reswm) yn dewis mynychu’r darlithoedd Saesneg a cyflwyno eu aseiniadau’n Saenseg. Dw i’n meddwl mai diffyg hyder yn eu Cymraeg ysgrifenidig eu hunain oedd y rheswm, yn hytrach na amheuaeth am safon y nodiadau a’r handouts – er, a heb fod yn gas, prin oedden nhw’n medru sarad Saesneg (!)

    Byddai dangos y nodiadau a fidoes o ddarlihoedd efallai’n cynorthwyo i ddangos y byddant yn deall y Gymraeg sy’n cael ei ddefnyddio. Mae’n siwr mai hwn yw un o sialensau fwyaf y CCC.

  2. Pwynt da iawn Rhys, rheswm arall pam ddylen nhw fod mor agored â phosib gyda’r stwff – yn fy marn i

  3. Gyfeillion

    Diolch am eich sylwadau. Rwy’ wrthi’n llunio paper ar gyfer y digwyddiad sy’n cael ei nodi isod – er dwi ddim yn siwr faint o ddiddordeb fydd yn y Coleg Cymraeg yn Teeside! Be’ sy’n ddiddorol yw fod diddordeb mawr yn natblygiadau’r Coleg ac adnoddau sy’n cael eu rhannu – fel enghraifft o’r hyn y gellir ei wneud ar yr ochr Saesneg. Y drafferth ry’n ni’n ei gwynebu ar adegau yw materion hawlfraint, sy’n arwain at fwy o gyfyngiadau na buaswn i’n hoffi yn ddelfrydol. Os oes gennych unrhyw sylwadau / awgrymiadau cadwch mewn cysylltiad.

    http://csapopencascade.wordpress.com/2011/07/19/strictly-come-cascading%E2%80%A6at-teesside-university-16-september-2011/

  4. Dafydd – pa fath o drafferth gyda ‘materion hawlfraint’?

    Diolch am y sylw.

  5. Un problem hawlfraint posibl yw gyda gwaith ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi mewn cylchgrawn academaidd sydd yn y tu ôl i ‘firewall’ ac yn gwrthod caniatad i’r awdur hyd yn oed ei gyhoeddi ar ei wefan ei hun. Dyna broblem sydd yn wynebu ffrind imi sy’n credu mewn pethau fel Creative Commons ac Open Source, ond mae’r cylchgronau pwysicaf yn ei faes yn cyfyngu ar fynediad yn y ffordd hon.

  6. @Carys Galla i ddeall yr anhawster mewn achos felly. (Er petawn i’n academydd, baswn i eisiau i g7ymaint o bobl a phosib weld ffrwyth fy ngwaith, yn yn dweud wrth y cylchgrawn academaidd ble i fynd a chyhoedid’r peth arlein fy hun!)

    Beth am nodiadau darlith a fideos ‘ta? Ydy’r Coelg neu’r darlithydd yn hawlio hawlfriant dros y rhain? Os ydynt, allan nhw ddim newid eu telerau, fel mae Stanford ac MIT yn amlwg wedi ei wneud?

    Os mai darlithwyr eu hunain sy’n hawlio’r hawlfraint dros y gwaith maen nhw wedi ei baratoi, mae’r un pwyntiau ynglyn a ‘hyrwyddo’ yn berthnasol iddyn nhw – bydd yn ategu eu henw da ac o gymorth iddynt os ydynt am ddatblygu eu gyrfa.

  7. Gyfeillion

    Diolch i chi am eich sylwadau. O ran hawlfraint mae’n rhaid i’r defnydd gan y Coleg fod yn gyfystyr a ‘fair use’ am ddeunyddiau mae’r Coleg yn ei osod ar y Porth. Mae hyn yn caniatau defnyddio eitermau wedi eu cydnabod ar gyfer pwrpasau addysgol – ond rhannau yn unig o gyhoeddiadau a ganiateir. Felly er y gallai darlithydd daearyddiaeth dyweder defnyddio siart o lyfr, neu ddiagram; ni fyddai darlithydd drama yn gallu digideiddio drama cyfan sydd allan o brint (heb ganiatad y deilydd hawlfraint). Mae modd gwneud cais am ganiatad o’r fath, ond yn aml rydym yn cael yr hawl i gyhoeddi am gyfnod penodedig ac yn gaeedig ar gyfer myfyrwyr ar fodiwl neu gwrs penodol.

    Parthed nodiadau darlith a fideos, os yw’r Coleg yn ariannu datblygiad y cwrs rydym yn gosod amod fod y cwrs ar gael ar y Porth a’r rhagdybiaeth fod hynny ar gael mor agored a phosib (gan nodi rhai o’r heriau uchod). Yn ymarferol mae rhai o’r darlithwyr mwyaf blaengar yn defnyddio cyflwyniadau aml-gyfryngol bellach i gyflwyno testunau.

  8. Diolch am ddod yn ol ag ateb mor fanwl, Dafydd. Mae’n dda gwybod bod CCC yn rhoi cymaint o ystyriaeth a phwyslais ar rannu deunydd drwy Y Porth.

    Yn y cyfamser, dw i hefyd wedi dod ar draws cyfres o nodiadau CAD and Digital Tutorials gan Ysgol Bensaerniaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd (ar Issuu). Neis.

Mae'r sylwadau wedi cau.